Cymunedau Cyfeillgar i Oed

Ym mis Hydref 2021, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru eu Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, (Cymru o blaid pobl hŷn: ein strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio | LLYW.CYMRU) sy’n cynnwys ffocws cryf ar greu Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn. Mae’r ddogfen gryno i’w gweld yma: Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio - Crynodeb Hydref 2021 (llyw.cymru).

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn fel lleoedd lle mae pobl hŷn, cymunedau, polisïau, gwasanaethau, lleoliadau a strwythurau’n cydweithio mewn partneriaeth i’n cynorthwyo a’n galluogi ni i gyd i heneiddio’n dda.  

Maen nhw'n nodi wyth nodwedd hanfodol o Gymunedau o Blaid Pobl Hŷn, sy'n hysbys fel yr ‘wyth maes’, sef:

  • Mannau awyr agored ac adeiladau
  • Trafnidiaeth
  • Tai
  • Cyfranogiad cymdeithasol
  • Parch a chynhwysiant cymdeithasol
  • Cyfranogiad dinesig a chyflogaeth
  • Cyfathrebu a gwybodaeth
  • Cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth i bob awdurdod lleol ddod yn Gymuned o Blaid Pobl Hŷn sy'n cael ei chydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Cafodd y Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn ('y Rhwydwaith') ei sefydlu yn 2010 er mwyn cysylltu dinasoedd, cymunedau a sefydliadau ledled y byd â'r weledigaeth gyffredin o wneud eu cymunedau nhw'n lleoedd gwych i heneiddio ynddyn nhw. Ar hyn o bryd, mae'r Rhwydwaith yn cynnwys 1,363 o ddinasoedd a chymunedau mewn 47 o wledydd, gan gwmpasu dros 298 miliwn o bobl ledled y byd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i barhau â'r gwaith Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn ac i ddod yn aelod o Rwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn, Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwrw ymlaen â gwaith Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill ac wedi enwi Eiriolwr ac Arweinydd o Blaid Pobl Hŷn.

Mae grŵp llywio wedi'i greu ac yn cwrdd unwaith y mis.  Mae aelodau’r grŵp hwn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Eiriolwr o Blaid Pobl Hŷn
  • Rhwydweithiau Llesiant Integredig (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
  • Fforwm dros 50
  • Cynghrair Pobl Hŷn Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Dewis
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
  • Age Cymru
  • Gofalu am Gaerffili

Os hoffech chi ymuno â’r grŵp hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
OedGyfeillgar@caerffili.gov.uk