Hysbysiad Statudol
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar ôl ymgynghori â'r unigolion hynny fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, yn cynnig gwneud y newidiadau rhagnodedig fel a ganlyn:
- Adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf
Cynhelir yr ysgolion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfnod o ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi'r cynnig hwn. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad, sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymatebion y cynigydd a'r ymateb llawn gan Estyn, ar gael yn: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-y-lawnt-ac-ysgol-gynradd-rhymni-uchaf
Y bwriad yw gweithredu'r cynnig gyda dyddiad dod i rym tua mis Medi 2027.
Rhaid pwysleisio y byddai'r ddwy ysgol yn parhau'n endidau annibynnol.
Ysgol Y Lawnt:
Nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Y Lawnt ar hyn o bryd yw 161 yn ogystal â 22 o leoedd yn y dosbarth meithrin, capasiti'r ysgol ar hyn o bryd yw 206 o ddisgyblion a’r nifer derbyn cyhoeddedig yw 29.
Y capasiti ar gyfer Ysgol Y Lawnt pe bai’r cynnig fydd 210 yn y flwyddyn gyntaf, a fydd yn cynyddu fesul 15 y flwyddyn, nes cyrraedd capasiti llawn, sef 315 o ddisgyblion, yn ogystal â 45 o leoedd yn y dosbarth meithrin ac 8 o leoedd yn y ganolfan adnoddau arbennig.
Y nifer derbyn ar gyfer Ysgol Y Lawnt yn y flwyddyn ysgol gyntaf pan fydd y cynigion yn cael eu gweithredu fydd 30 ar gyfer pob grŵp blwyddyn gan gynnwys y dosbarth meithrin, a fydd yn cynyddu i 45 ar gapasiti llawn.
Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf:
Nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ar hyn o bryd yw 134 yn ogystal â 15 o leoedd yn y dosbarth meithrin, capasiti'r ysgol ar hyn o bryd yw 184 o ddisgyblion a’r nifer derbyn cyhoeddedig yw 26.
Y capasiti ar gyfer Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf pe bai’r cynnig fydd 184 yn y flwyddyn gyntaf, a fydd yn cynyddu fesul 5 y flwyddyn, nes cyrraedd capasiti llawn, sef 210 o ddisgyblion, yn ogystal â 30 o leoedd yn y dosbarth meithrin ac 8 o leoedd yn y ganolfan adnoddau arbennig.
Y nifer derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf yn y flwyddyn ysgol gyntaf y bydd y cynigion yn cael eu gweithredu fydd 26 ar gyfer pob grŵp blwyddyn gan gynnwys y dosbarth meithrin, a fydd yn cynyddu i 30 ar gapasiti llawn.
Ni fyddai’r dalgylchoedd presennol yn newid, fel sydd wedi'i amlinellu yn y Ddogfen Ymgynghori (tudalen 5)
Nid oes newid i bolisi'r Cyngor o ran cludiant ysgol, sef darparu cludiant am ddim i'r ysgol ‘berthnasol’ (h.y. yn y dalgylch neu'r ysgol agosaf) os yw'r pellter yn fwy nag 1.5 milltir rhwng y cartref a'r ysgol.
Cyfnod gwrthwynebu
O fewn cyfnod o 28 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r cynnig, hynny yw, rhwng
Dydd Llun 8 Ionawr 2024 a dydd Llun 5 Chwefror 2024, caiff unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion yn ysgrifenedig neu drwy e-bost i'r cynigydd.
Dylai gwrthwynebiadau trwy e-bost gael eu hanfon i: YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk
Dylai gwrthwynebiadau ysgrifenedig gael eu hanfon i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ar gyfer sylw Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif, Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a ddaw i law (a heb eu tynnu'n ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu – ynghyd â'i sylwadau ar bob un – pan fydd yn rhoi gwybod i'r rhanddeiliaid am y penderfyniad ar y cynnig.
Richard Edmunds
Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol
Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Dyddiad: 8 Ionawr 2024
NODYN ESBONIADOL (Nid yw hyn yn rhan o'r hysbysiad, ond diben hyn yw egluro'r ystyr gyffredinol)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf i safle newydd, i'r gogledd o Carno Street, Rhymni NP22 5EE.
Mae’r cynnig yn ceisio creu adeilad ysgol cynaliadwy gyda chyfleusterau wedi'u rhannu ar gyfer Ysgol y Lawnt, Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac at ddefnydd y gymuned. Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac yn parhau fel endidau ar wahân, wedi'u lleoli o fewn yr adeilad deuddiben newydd.