Coedlan Goffa Covid Ynys Hywel

Teitl

Ynys Hywel Covid Memorial Woodland

Dyddiad agor

16/02/2023

Dyddiad cau

30/03/2023

Trosolwg

Mae fferm Ynys Hywel wedi'i dewis gan Lywodraeth Cymru i fod yn un o'r tair Coedlan Goffa Covid sy'n cael eu plannu yng Nghymru.

Pam rydym yn ymgynghori?

I gael adborth y cyhoedd ar y cynllun arfaethedig sydd wedi'i lunio ar gyfer y goedlan goffa. 

Dogfennau

Cynllun Ymgynghori Drafft Coedlan Goffa Covid Ynys Hywel
Cwestiynau cyffredin

Ffyrdd o fynegi eich barn

Bydd digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Cwmfelin-fach (16/02/23, 9am–12pm) neu, fel arall, gallwch chi ddefnyddio'r cyfeiriadau e-bost isod i anfon eich sylwadau perthnasol chi.

Ymholiadau

Richard Bryan – Pensaer Tirwedd: BryanRJ@caerffili.gov.uk | 01443 866609

Jordan Crowson – Pensaer Tirwedd Graddedig: CrowsJ@caerffili.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

14/04/2023

Canlyniadau disgwyliedig

Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r goedlan arfaethedig, ac ystyried sylwadau perthnasol y cyhoedd.