Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022

Teitl

Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022

Dyddiad agor

30/05/2022

Dyddiad cau

5/06/2022

Trosolwg

Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016, a wnaed dan adran 26 o Ddeddf 2006, yn mynnu bod Awdurdodau 7 Lleol yn paratoi asesiadau o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant (Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant) yn eu hardal ac yn adolygu'r rhain yn rheolaidd.

Mae’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant yn mesur natur a graddau'r angen am ofal plant yn yr ardal a’r ddarpariaeth sydd ar gael.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys Cynllun Gweithredu; rhaid i hyn roi manylion y camau gweithredu, y blaenoriaethau a'r cerrig milltir i gynnal y cryfderau a datrys y diffygion a nodwyd yn yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant.

Pam rydym yn ymgynghori?

Mae ymgynghori effeithiol yn elfen graidd o’r asesiad digonolrwydd a bydd yn rhoi’r cyfle i’r rheini sydd â diddordeb mewn gofal plant dynnu sylw at faterion neu bryderon perthnasol. Canllawiau Statudol Gofal Plant (2016)

Dogfennau

Ffyrdd o fynegi eich barn

Gallwch ddychwelyd y ffurflen hon atom trwy e-bost blynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk neu trwy’r post at: Blynyddoedd Cynnar, 3ydd llawr, Tŷ Penallta, Parc Busnes Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG. Cysylltwch â ni ar 01443 863232 os oes ydych eisiau’r ffurflen mewn iaith neu fformat arall.

Ymholiadau

Fiona Santos – Rheolwr Gofal Plant santof@caerphilly.gov.uk

Dyddiad disgwyliedig y canlyniadau

Bydd yr holl sylwadau'n cael eu hystyried ar gyfer unrhyw welliannau sydd eu hangen yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2022.

Canlyniadau disgwyliedig

Sylwadau ynghylch digonedd gwybodaeth a pherthnasedd gweithredoedd lefel uchel, ynghyd â nodi unrhyw wybodaeth neu gamau sydd ar goll.