Ysgol Fabanod Cwm Glas
Pant Glas, Llanbradach, Caerffili, CF83 3PD
Cynnig
Oherwydd bod nifer y disgyblion yn Ysgol Fabanod Cwm Glas yn gostwng, a rhagwelir y bydd yn gostwng ymhellach, cafodd cyfarfod ei drefnu gan y Pennaeth a'r Corff Llywodraethu gyda chynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol, gan gynnwys y Prif Swyddog Addysg, i drafod hyfywedd yr ysgol yn y dyfodol. Cytunwyd yn y cyfarfod na allai'r ysgol bellach gynnal cyllideb gytbwys a lefel staffio briodol, felly gwnaed penderfyniad gan Bennaeth a Chorff Llywodraethu yr ysgol i gau Ysgol Fabanod Cwm Glas o fis Gorffennaf 2024.
Mae disgyblion Ysgol Fabanod Cwm Glas ar hyn o bryd yn pontio i Ysgol Coed Y Brain ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae'r cynnig yn ceisio pontio'r disgyblion Cyfnod Sylfaen er mwyn sicrhau darpariaeth ysgol gynradd gynhwysol i bob oedran o fis Medi 2024. Bydd hyn yn arwain at gau Ysgol Fabanod Cwm Glas.
Cam Ymgynghori: Cyflawn
Dyddiad cwblhau arfaethedig: Medi 2024
Dogfennau allweddol
Recordiadau
Ymholiadau
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Ysgolion yr 21ain Ganrif)
Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol
Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG
Ebost: ysgolionyr21ainganrif@caerffili.gov.uk