Llythr Hysbysu

Annwyl Ymgynghorai,

Rydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu am gynnig y mae'r Cyngor yn ei gyflwyno mewn perthynas â chyfleuster ysgol newydd.

Mae'r cynnig yn ymwneud â'r canlynol:

  • Adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf

Mae'r cynnig am geisio creu adeilad ysgol newydd Carbon Sero Net sy’n cynnwys cyfleusterau wedi'u rhannu ar gyfer Ysgol y Lawnt, Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac at ddefnydd y gymuned.  Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac yn parhau fel endidau ar wahân, wedi'u lleoli o fewn yr adeilad deuddiben newydd.

Cynhelir y cyfnod ymgynghori rhwng 28 Medi 2023 a 9 Tachwedd 2023.

Ceir manylion llawn am y cynnig yn:

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-y-lawnt-ac-ysgol-gynradd-rhymni-uchaf

Cofion

Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili