Ymateb Estyn

Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygwyr Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

O dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i Chod cysylltiedig, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n ofynnol iddo weithredu yn unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn o ran materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, bydd Estyn dim ond yn rhoi eu barn ar rinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion. Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio’r ymateb canlynol i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigiwr.

Y cynnig yw gwneud addasiad rheoledig i adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf i adeilad deuddiben a rennir ar safle newydd. Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg ac yn aros fel endidau ar wahân.

Crynodeb / Casgliad

Mae Estyn yn ystyried bod y cynnig yn debygol o gynnal safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal, o leiaf.

Disgrifiad a manteision

Mae’r awdurdod lleol wedi amlinellu rhesymeg glir ar gyfer ei gynnig. Mae’n amlinellu’n syml beth yw manteision adeiladu cyfleuster newydd ar y cyd tra’n nodi statws cyflwr cymharol wael y ddau adeilad ysgol presennol. Nid yw’r naill na’r llall o’r adeiladau ysgol presennol yn cyd-fynd yn llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, ac mae’r awdurdod lleol yn nodi bod gan y ddwy ysgol ôl-groniad o waith cynnal a chadw. Fodd bynnag, nid yw adeiladau’r naill ysgol na’r llall ar y lefel cyflwr isaf ac nid yw’r cynnig yn nodi cwmpas na chost gwaith cynnal a chadw angenrheidiol. 

Mae prif adeilad Ysgol Y Lawnt yn adeilad rhestredig Gradd II ac yn destun cyfyngiadau datblygu. Mae gan y safle ardaloedd chwarae cyfyngedig yn yr awyr agored, hefyd. Mae Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ar ddwy lefel ac nid oes ganddi lifft ar hyn o bryd. Y cynnig yw creu adeilad mawr, sy’n effeithlon o ran ynni, ar safle newydd gydag ystafelloedd dosbarth modern, cyfleusterau gwell yn yr awyr agored a gofodau hyblyg at ddefnydd rhanedig a chymunol. 

Er bod yr awdurdod lleol yn rhoi disgrifiad clir o’r cynnig ac amserlen ragamcanol ar gyfer gweithdrefnau statudol, nid yw’n rhoi amserlen ar gyfer gweithredu’r cynigion nac ar gyfer trosglwyddo i’r safle newydd. 

At ei gilydd, mae’r cynigiwr yn nodi’n glir ac yn deg y manteision a’r anfanteision disgwyliedig o gymharu â’r sefyllfa bresennol a sut byddant yn rheoli unrhyw risg. Mae’r awdurdod lleol wedi darparu Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ac Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned fel rhan o’i gynnig.

Mae’r awdurdod lleol yn amlinellu pedwar dewis amgen posibl i’w gynnig. Mae’n rhoi rhesymau addas dros wrthod yr opsiwn i godi dau adeilad ysgol newydd ar yr un safle. Fodd bynnag, nid yw’n nodi’n benodol pam mae’r posibilrwydd i ddatblygu’r naill ysgol neu’r llall yn annibynnol ar ei safle presennol wedi cael ei ddiystyru, heblaw trwy ddatgan y farn fod cyfyngiadau ar y ddau safle yn gwneud y dewis amgen hwn yn werth gwael am arian ac yn peri risg uchel.

Mae’r cynigiwr wedi ystyried effaith y newidiadau ar drefniadau teithio dysgwyr yn rhannol. Mae’n nodi’n gywir y gallai amseroedd teithio i ‘leiafrif’ o ddisgyblion newid o ganlyniad i leoliad newydd yr ysgol arfaethedig, ond nid yw’n ystyried faint o ddisgyblion na manylion ynghylch sut bydd yr awdurdod lleol yn delio â’r mater hwn. Mae’r awdurdod lleol yn pwysleisio ei fod yn ystyried y bydd y gwahaniaeth mewn amser a gymerir i deithio i safle’r ysgol newydd yn ddibwys gan ei fod yn gymharol agos at y ddwy ysgol bresennol.

Mae’r cynnig yn rhagweld y bydd twf cymedrol yn niferoedd y disgyblion yn y ddwy ysgol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, sy’n golygu y bydd angen tua 193 o leoedd ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg, a 157 o leoedd ar gyfer disgyblion cyfrwng Saesneg erbyn 2026. Ar yr un pryd, byddai lle i 525 o ddisgyblion yn yr adeilad newydd, yn ogystal â dosbarth meithrin ac 16 lle mewn canolfan adnoddau arbennig. Nid yw’r cynigiwr yn archwilio’r rheswm am leoedd dros ben yn drylwyr, heblaw nodi y gallai adeilad newydd arloesol ysgogi’r galw ac y gallai lleoedd posibl dros ben yn y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg gael eu rheoli’n gynaliadwy trwy gydbwyso’r angen i gynyddu lleoedd yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae’r cynnig yn rhoi ystyriaeth glir i effaith y cynigion ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn yr awdurdod lleol a’r graddau y mae’r cynnig yn cefnogi’r targedau yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) yr awdurdod lleol. Bydd y cynnig i drosglwyddo Ysgol Y Lawnt i adeilad ysgol newydd o safon yr 21ain ganrif gyda chapasiti cynyddol yn cyfrannu at nod yr awdurdod i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ac ehangu’r cyfleoedd i ddisgyblion gael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynnig yn rhoi ystyriaeth briodol i’r effaith negyddol bosibl ar niferoedd y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg cyfagos. O ran lliniaru, mae’r awdurdod lleol wedi amlinellu’r posibilrwydd i leihau hyn trwy gynnydd rheoledig a graddol yng nghapasiti’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd.

Mae’r cynnig yn nodi bod yr awdurdod lleol wedi neilltuo cronfa wrth gefn ar gyfer costau cyfalaf fel rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B. Nid yw’r cynnig yn rhoi amcangyfrif o gost yr adeilad newydd na manylion am unrhyw arbedion posibl.

Agweddau addysgol ar y cynnig

Nid yw’r awdurdod lleol yn rhoi ystyriaeth drylwyr yn ei gynnig i effaith y newidiadau ar ansawdd a safonau mewn addysg. Er enghraifft, er ei fod yn cyfeirio at yr adroddiadau arolygu diweddaraf ar gyfer y ddwy ysgol, nid yw’n nodi’n uniongyrchol p’un a fyddai’r newid arfaethedig yn cynorthwyo’r ysgol i fynd i’r afael ag unrhyw un o’r argymhellion a nodwyd. 

Mae’r cynnig yn amlinellu mantais yr ardaloedd awyr agored estynedig sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y safle newydd. Er enghraifft, mae’n amlygu darpariaeth MUGA gydag arwyneb 3G ac ysgol goedwig a rhandiroedd at ddefnydd disgyblion. Mae’n rhagdybio’n deg y byddai agweddau a lles disgyblion yn debygol o gael eu heffeithio’n gadarnhaol gan y cyfle cynyddol i ymgysylltu â dysgu yn yr awyr agored a chwarae corfforol trwy ddefnyddio’r adnoddau hyn. Mae’r cynnig hefyd yn dangos y gallai defnydd hyblyg o’r gofod fod o fudd i ddisgyblion trwy alluogi cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng y ddwy ysgol a gyda phartneriaid cymunedol. Er enghraifft, mae’r cynnig yn ystyried yr effaith gadarnhaol bosibl ar ddefnydd disgyblion, staff a’r gymuned o’r Gymraeg trwy rannu arbenigedd rhwng y ddwy ysgol a mynediad ar y cyd at yr ardal dderbynfa ddwyieithog a chyfleusterau cymunol. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig yn rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw effeithiau andwyol posibl sy’n deillio o ddwy ysgol yn rhannu’r un safle, fel cystadleuaeth dros ddefnyddio gofodau a rennir neu ffactorau cyfyngol eraill ar lefel weithredol a allai beryglu eu gweithredu annibynnol.

Mae’r cynnig yn ystyried yr effaith ar grwpiau bregus yn rhannol, yn enwedig y disgyblion hynny ag anghenion addysgol arbennig sy’n debygol o elwa ar ddarpariaeth dwy ganolfan adnoddau dysgu ar wahân gyda lle i wyth disgybl trwy gyfrwng y ddwy iaith. O ran hygyrchedd, bydd yr adeilad newydd yn gwbl hygyrch ac yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r awdurdod lleol yn nodi’n gywir y byddai’r newidiadau arfaethedig yn arwain at rywfaint o darfu ac addasu i ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Mae’r cynnig yn ceisio cynnal parhad ar gyfer y ddwy ysgol trwy gadw’r trefniadau arwain a llywodraethu presennol ar gyfer y ddwy ysgol, a thrwy gynnwys partneriaid cymunedol mewn cynlluniau i drosglwyddo agweddau presennol ar ddefnydd cymunedol. O ystyried mai’r cynnig yw adeiladu ar safle newydd, ni ddylai fod unrhyw effaith niweidiol ar brofiad disgyblion yn y naill ysgol na’r llall yn ystod y cyfnod adeiladu.