Llythyr Hysbysiad Adroddiad Ymgynghori

Annwyl Ymgynghorai,

Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu ynghylch cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori mewn perthynas â chynnig Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Rydym yn cynnig gwneud y canlynol:

Adleoli Ysgol Y Lawnt ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf

Mae'r cynnig am geisio creu adeilad ysgol newydd Carbon Sero Net sy’n cynnwys cyfleusterau wedi'u rhannu ar gyfer Ysgol y Lawnt, Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf ac at ddefnydd y gymuned.  Bydd y ddwy ysgol yn parhau i ddarparu addysg gynradd cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ac yn parhau fel endidau ar wahân, wedi'u lleoli o fewn yr adeilad deuddiben newydd.

Ceir manylion llawn am y cynnig yn:

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-y-lawnt-ac-ysgol-gynradd-rhymni-uchaf

Mae'r Adroddiad Ymgynghori ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled.  Cysylltwch â ni ar 01443 864817 i drefnu hyn.

Cofion

Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili