Coedlan Goffa Covid Ynys Hywel Cwestiynau Cyffredin

Pryd bydd y gwaith yn cychwyn ac yn gorffen?

Bydd cam cyntaf y gwaith yn cychwyn ddechrau mis Mawrth a dylai gael ei gwblhau erbyn mis Mehefin 2023. Bydd rhagor o waith plannu bylbiau a choed brodorol yn ystod yr hydref a'r gaeaf, 2023.

Beth yn union sy'n digwydd?

Bydd y cam cychwynol yn cynnwys plannu coed a llwyni brodorol, wedyn bydd llwybrau llwch cerrig a mynedfa bren newydd, waliau sychion a meinciau pren. Ni fydd y gwaith plannu yn digwydd ym mhob dôl, gan fod dolydd llawn rhywogaethau ar y safle a fydd yn cael eu cynnal yn draddodiadol.

A fydd unrhyw ffyrdd neu lwybrau cerdded ar gau?

Ni fydd angen cau unrhyw ffyrdd na llwybrau cerdded yn ystod y gwaith. Fodd bynnag, bydd y gwaith yn golygu y bydd y rhwydwaith priffyrdd cyfagos ychydig yn fwy prysur o ganlyniad, felly byddwch yn amyneddgar wrth i ni wneud y gwaith.

Pwy sy'n talu am y gwaith?

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu gwaith creu Coedlan Goffa Covid. Y Prif Weinidog yn cyhoeddi’r drydedd goedlan goffa

Pwy fydd yn gofalu am y Goedlan Goffa Covid newydd?

I ddechrau, bydd y contractwr tirwedd, sy'n gwneud y gwaith plannu, yn cynnal a chadw'r goedlan. Wedyn, bydd Adran Mannau Gwyrdd a Mynwentydd Cyngor Caerffili yn ei chynnal a'i chadw.

A oes cyfle i'r cyhoedd gymryd rhan a phlannu coed?

Oes, mae digwyddiad plannu cymunedol yn digwydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 Mawrth. Ewch i dudalen we wythnos plannu coed i gofrestru i wirfoddoli

A fydd y goedlan ar agor i'r cyhoedd?

Bydd, yn syth ar ôl i gam cyntaf y gwaith gael ei gwblhau, a gobeithio erbyn dechrau haf 2023, os bydd y tywydd yn caniatáu.