Hysbysiad Statudol

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar ôl ymgynghori â'r unigolion hynny fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, yn cynnig gwneud y newidiadau rhagnodedig fel a ganlyn:

  • Cau Ysgol Fabanod Cwm Glas

Cynhelir yr ysgol ar hyn o bryd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfnod o ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi'r cynnig hwn. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad, sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymatebion y cynigydd a'r ymateb llawn gan Estyn, ar gael yn: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/fabanod-cwm-glas 

Y bwriad yw gweithredu'r cynnig gyda dyddiad dod i rym tua mis 19 Gorffennaf 2024.

Mae Ysgol Fabanod Cwm Glas yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 a 7 oed ac mae ganddi ffigur capasiti cyhoeddedig o 55 o leoedd a nifer derbyn cyhoeddedig o 19.  Nifer y disgyblion ar hyn o bryd yw 34 (31 Cyfwerth ag Amser Llawn) gyda dros 50% o'r disgyblion hyn yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol.

Ar hyn o bryd, mae 50.88% o'r lleoedd yn wag, gan godi i 57.89% ym mis Medi 2024, a rhagamcanir bydd hyn yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod oherwydd disgwylir bydd nifer y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn gostwng yn gysylltiedig â gostyngiad mewn cyfraddau genedigaethau yn yr ardal a dewis rhieni.

Ar hyn o bryd mae disgyblion Ysgol Babanod Cwm Glas yn trosglwyddo i Ysgol Gynradd Coed-y-brain yng Nghyfnod Allweddol 2. Mae'r cynnig yn ceisio trosglwyddo'r disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen. Bydd hyn yn arwain at gau Ysgol Babanod Cwm Glas.

Nifer y disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Coed-y-Brain ar hyn o bryd yw 164 yn ogystal â 10 o leoedd yn y dosbarth meithrin, capasiti'r ysgol ar hyn o bryd yw 242 o ddisgyblion gyda nifer derbyn cyhoeddedig rhanedig o 28 ar gyfer Babanod a 39 ar gyfer Plant Iau, a gafodd ei sefydlu ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 Ysgol Fabanod Cwm Glas.

Os byddwn ni'n penderfynu cau Ysgol Fabanod Cwm Glas, bydd y nifer derbyn yn cael ei ddiwygio i un nifer cyhoeddedig o 34 fesul grŵp blwyddyn o fis Medi 2024 ymlaen, ac yn seiliedig ar ragamcanion presennol ac yn y dyfodol ar gyfer y ddwy ysgol, mae modd darparu ar gyfer pob disgybl o fewn y ffigwr capasiti cyhoeddedig presennol ar gyfer Ysgol Gynradd Coed y Brain, yn amodol ar ddewis y rhieni.

Byddai’r dalgylch yn aros yr un fath fel yr amlinellir yn y Ddogfen Ymgynghori (tudalen 10)

Nid oes newid i bolisi'r Cyngor o ran cludiant ysgol, sef darparu cludiant am ddim i'r ysgol ‘berthnasol’ (h.y. yn y dalgylch neu'r ysgol agosaf) os yw'r pellter yn fwy nag 1.5 milltir rhwng y cartref a'r ysgol.

Cyfnod gwrthwynebu

O fewn cyfnod o 28 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r cynnig, hynny yw, rhwng Dydd Llun 8 Ionawr 2024 a Dydd Llun 5 Chwefror 2024, caiff unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion yn ysgrifenedig neu drwy e-bost i'r cynigydd. 

Dylai gwrthwynebiadau trwy e-bost gael eu hanfon i: YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk

Dylai gwrthwynebiadau ysgrifenedig gael eu hanfon i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ar gyfer sylw Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG.

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a ddaw i law (a heb eu tynnu'n ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu – ynghyd â'i sylwadau ar bob un – pan fydd yn rhoi gwybod i'r rhanddeiliaid am y penderfyniad ar y cynnig. 

Richard Edmunds
Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol
Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Dyddiad: 8 Ionawr 2024

NODYN ESBONIADOL (Nid yw hyn yn rhan o'r hysbysiad, ond diben hyn yw egluro'r ystyr gyffredinol)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig cau Ysgol Fabanod Cwm Glas.

Ar hyn o bryd mae disgyblion Ysgol Fabanod Cwm Glas yn trosglwyddo i Ysgol Gynradd Coed Y Brain yng Nghyfnod Allweddol 2. O fis Medi 2024 ymlaen, bydd disgyblion Ysgol Fabanod Cwm Glas yn trosglwyddo i Ysgol Gynradd Coed y Brain yn Heol yr Ysgol, Llanbradach, Caerffili CF83 3LD, yn amodol ar ddewis rhieni.