Llythr Hysbysu - Ionawr

Annwyl Ymgynghorai

Yn unol â gofynion Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydyn ni'n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am gyhoeddi Hysbysiad Statudol.

Mae'r cynnig ynglŷn â'r canlynol:

  • Cau Ysgol Fabanod Cwm Glas

Bellach, mae gan unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu'r cynnig trefniadaeth ysgolion hwn gyfle i wneud hynny. Er mwyn i wrthwynebiadau gael eu hystyried yn wrthwynebiadau statudol, rhaid eu cyflwyno nhw'n ysgrifenedig neu drwy e-bost, a rhaid iddyn nhw ddod i law cyn diwedd y cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod o hyd, sy'n dod i ben ar 5 Chwefror 2024.

Dylai gwrthwynebiadau trwy e-bost gael eu hanfon i: YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk

Dylai gwrthwynebiadau ysgrifenedig gael eu hanfon i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ar gyfer sylw Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG

Yr argymhelliad yw troi at yr wybodaeth gefndir sydd wedi'i chynnwys yn y Ddogfen Ymgynghori a'r Adroddiadau Ymgynghori cyn cyflwyno ymateb.

Mae'r manylion llawn a'r holl ddogfennau perthnasol ynglŷn â'r cynnig ar gael yn: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/fabanod-cwm-glas

Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled.  Cysylltwch â ni ar 01443 864817 i drefnu hyn.

Cofion,

Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili