Llythr Hysbysu
Annwyl Ymgynghorai,
Rydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu am gynnig y mae'r Cyngor yn ei gyflwyno mewn perthynas â chyfleuster ysgol newydd, ar gais y Pennaeth a Llywodraethwyr yr Ysgol.
Mae'r cynnig yn ymwneud â'r canlynol:
- Cau Ysgol Fabanod Cwm Glas
Mae disgyblion Ysgol Fabanod Cwm Glas ar hyn o bryd yn pontio i Ysgol Coed Y Brain ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae'r cynnig yn ceisio pontio'r disgyblion Cyfnod Sylfaen er mwyn sicrhau darpariaeth ysgol gynradd gynhwysol i bob oedran o fis Medi 2024. Bydd hyn yn arwain at gau Ysgol Fabanod Cwm Glas.
Cynhelir y cyfnod ymgynghori rhwng 28 Medi 2023 a 9 Tachwedd 2023.
Ceir manylion llawn am y cynnig yn:
https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/fabanod-cwm-glas
Cofion
Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili