Ymateb Estyn i’r cynnig i gau Ysgol Fabanod Cwm Glas o fis Gorffennaf 2024

Cyflwyniad

Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygwyr Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

O dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i Chod cysylltiedig, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n ofynnol iddo weithredu yn unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn o ran materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, bydd Estyn yn rhoi eu barn ar rinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion. 

Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio’r ymateb canlynol i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigiwr.

Crynodeb / Casgliad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori ar eu cynnig i gau Ysgol Fabanod Cwm Glas a fydd yn dod i rym o fis Gorffennaf 2024.

Mae Estyn o’r farn fod y cynnig yn debygol o gynnal safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal, o leiaf.

Disgrifiad a manteision

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno rhesymeg glir yn amlinellu’r rhesymau ar gyfer y cynnig. O ganlyniad i ostyngiad parhaus ac arfaethedig yn y cofrestrau yn Ysgol Fabanod Cwm Glas, ni all y pennaeth a’r corff llywodraethol osod cyllideb gytbwys gyda lefel staffio briodol mwyach, felly penderfynwyd bwrw ymlaen â’r penderfyniad i’w chau.

O dan y trefniadau presennol, mae disgyblion yn Ysgol Fabanod Cwm Glas yn pontio i Ysgol Gynradd Coed Y Brain ar ddiwedd Blwyddyn 2. Mae’r cynnig hwn yn ceisio dod â chyfnod pontio ymlaen i ddechrau cyfnod y blynyddoedd cynnar, a fyddai’n galluogi disgyblion i dderbyn darpariaeth gynradd bob oed o fis Medi 2024. 

Mae’r Cyngor wedi darparu disgrifiad sy’n briodol o fanwl o’r cynnig ynghyd ag amcan o amserlen ar gyfer gweithdrefnau statudol. Gan fod disgyblion eisoes yn pontio i Ysgol Gynradd Coed Y Brain, mae’r Cyngor yn datgan nad oes unrhyw ofynion ar gyfer trefniadau dros dro. Mae’r ddogfen ymgynghori yn datgan y byddai cymorth ychwanegol ar gael i deuluoedd, lle mae angen. 

Mae’r Cyngor wedi cynnwys ‘Dogfen Ymgynghori Plant a Phobl Ifanc’ ddefnyddiol sy’n cyd-fynd â dogfen y prif ymgynghoriad. Mae’r ddogfen hon yn cyfeirio at restr o Gwestiynau Cyffredin sydd ar gael ar wefan y Cyngor. Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos bod y rhain ar waith eto.

Mae’r Cyngor wedi amlinellu manteision ac anfanteision y cynnig hwn yn briodol. Mae’r prif fanteision a nodwyd yn ostyngiad sylweddol yn nifer y lleoedd dros ben, ynghyd â darparu cyfleoedd ehangach ar gyfer disgyblion mewn darpariaeth gynradd fwy. Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu buddion ychwanegol o ran hwyluso trefniadau ar gyfer teuluoedd sydd â brodyr a chwiorydd oedran cynradd, sy’n ymddangos yn briodol. 

Mae’r Cyngor yn datgan y bydd yn rheoli risgiau’n rhagweithiol yn unol â’i weithdrefnau rheoli risg. Mae’r ymgynghoriad yn nodi bod trefniadau pontio eisoes wedi hen ennill eu plwyf rhwng y ddwy ysgol, ac felly byddai unrhyw risgiau yn fach iawn. Mae’n ymddangos bod hwn yn ddatganiad rhesymol.

Mae’r Cyngor wedi ystyried ystod o opsiynau sy’n cynnwys ystyried gostyngiad mewn lefelau staffio, defnydd ar y cyd o’r adeilad i helpu gwrthbwyso costau a chydweithio neu ffedereiddio ag ysgol arall yn yr ardal. Mae’r Cyngor wedi nodi rhesymau ynglŷn â pham mae pob un ohonynt wedi cael ei ddiystyru o blaid cau’r ysgol. Mae’n ymddangos bod y rhesymau hyn yn deg a rhesymol. Fodd bynnag, er bod y Cyngor yn datgan y bydd mwy o drafodaethau’n cael eu cynnal gydag ysgolion ynglŷn â’r effaith ar staffio, ni chaiff yr effaith bosibl ar staff ei gwneud yn eglur o fewn yr adran ‘Manteision’ ac ‘Anfanteision’

Mae’r Cyngor wedi ystyried effaith y cynnig ar drefniadau cludiant. Mae’r ddwy ysgol yn rhannu’r un dalgylch, a’r pellter rhwng y ddwy ysgol yw 1.1 milltir. Ar hyn o bryd, mae disgyblion o Ysgol Fabanod Cwm Glas yn pontio i Ysgol Gynradd Coed Y Brain ar ddiwedd Blwyddyn 2 ac mae llwybrau ‘teithio diogel’ eisoes wedi’u sefydlu. Nid yw’r Cyngor yn rhagweld y bydd y cynnig yn effeithio ar drefniadau cludiant, ac mae’n ymddangos bod hwn yn ddatganiad rhesymol.

Mae’r Cyngor wedi dangos effaith y cynnig ar leoedd dros ben. Ar hyn o bryd, mae 50.88% o leoedd dros ben yn Ysgol Fabanod Cwm Glas a 32.23% o leoedd dros ben yn Ysgol Gynradd Coed Y Brain. Mae’n rhesymol i’r cynnig awgrymu y bydd lleoedd dros ben yn gostwng yn sylweddol o ganlyniad i’r bwriad i gau.

Mae’r Cyngor wedi rhoi ystyriaeth briodol i gostau ariannol y cynnig. Mae’r ddogfen ymgynghori yn datgan bod gan Ysgol Gynradd Coed Y Brain gapasiti sy’n bodoli eisoes i ddarparu’n llawn ar gyfer yr holl ddisgyblion o Ysgol Fabanod Cwm Glas ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac felly bod angen y buddsoddiad pellach lleiaf. Bydd arbedion yn cael eu gwireddu trwy gynnal a chadw un safle sy’n elwa ar sgôr effeithlonrwydd ynni gwell.

Mae’r awdurdod lleol wedi darparu Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg fel rhan o’r cynnig hwn. 

Mae’r awdurdod lleol wedi darparu Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned fel rhan o’r cynnig hwn. Mae’r awdurdod lleol yn nodi bod y ddwy ysgol yn rhai cyfrwng Saesneg, ac yn rhagweld y bydd y cynnig yn cael effaith fach iawn ar y cynnig cyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref, ac mae hyn yn rhagdybiaeth resymol. 

D.S. Mae Estyn yn rhoi ei farn ar sail rhinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion yn unig, ac nid yw’n gwerthuso’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg na’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned. 

Agweddau addysgol ar y cynnig

Mae’r Cyngor wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig trwy amlinellu manteision darpariaeth ysgol gynradd dros ddarpariaeth ysgol fabanod. Amlinellir y manteision o dan y cwricwlwm, ansawdd yr addysgu a datblygiad proffesiynol. Mae’r ymgynghoriad yn awgrymu y dylai safonau wella o dan un weledigaeth, byddai parhad esmwythach yn y ddarpariaeth a mynediad at ystod ehangach o weithgareddau cyfoethogi.

Mae’r ymgynghoriad yn awgrymu y bydd darparu cyfleoedd cynyddol i ddysgu ochr yn ochr ag ystod oedran ehangach o gyfoedion yn gwella lles ac agweddau at ddysgu ar draws y ddau leoliad. Yn ychwanegol, byddai disgyblion yn elwa ar ystod ehangach o weithgareddau allgyrsiol a gofal ysgol cofleidiol. 

Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu manteision canfyddedig dysgu o dan un tîm rheoli. Mae’r awdurdod lleol yn honni y bydd y manteision hyn yn deillio o arweinyddiaeth unedig y cwricwlwm ac ansawdd yr addysgu a’r dysgu o dan un cynllun datblygu ysgol gyfan. O ran parhad ar gyfer dysgwyr ar draws y sector cynradd, mae hwn yn ddatganiad rhesymol. 

Nid yw’r ymgynghoriad yn gwneud sylw ar adroddiad diweddaraf y ddwy ysgol gan Estyn, ond mae’n darparu dolen at wefan Estyn. Arolygwyd Ysgol Fabanod Cwm Glas ddiwethaf yn 2017 ac Ysgol Gynradd Coed Y Brain yn 2023. Nid yw’r naill adroddiad arolygu na’r llall yn amlinellu unrhyw ddiffygion difrifol. 

Mae’r awdurdod lleol wedi ystyried effaith y cynnig ar grwpiau bregus trwy gwblhau Asesiad Effaith Integredig llawn. Mae’r asesiad yn ystyried effaith y cynnig ar yr holl nodweddion gwarchodedig, ac yn nodi bod Ysgol Gynradd Coed Y Brain yn hygyrch i ddisgyblion a’r gymuned ehangach, ni waeth beth yw eu nodweddion penodol eraill. Mae’r ymgynghoriad yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw effeithiau negyddol canfyddedig, ac mae hyn yn ymddangos yn rhesymol.

O ran disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae’r awdurdod lleol yn datgan y byddai’n parhau i ddarparu cymorth ar gyfer disgyblion ag ADY. Mae’r awdurdod lleol hefyd yn datgan ei bod yn annhebygol y bydd y Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig yn Ysgol Gynradd Coed Y Brain yn cael ei heffeithio gan y cynnig hwn. Mae’n ymddangos bod hyn yn briodol.

Mae’r Cyngor wedi ystyried effaith y bwriad hwn i gau ar y gymuned leol. Mae’r ymgynghoriad yn datgan, gan fod Ysgol Fabanod Cwm Glas yn ysgol sy’n bwydo Ysgol Gynradd Coed Y Brain, y bydd yr effaith ar ysgolion cynradd lleol eraill yn fach iawn. Mae hwn yn ddatganiad rhesymol. Mae’r Cyngor yn datgan hefyd bod defnydd gan y gymuned o’r ddwy ysgol yn gyfyngedig ar hyn o bryd. Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, mae’r Cyngor yn datgan y bydd adeilad Cwm Glas yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer y Gymraeg a defnydd gan y gymuned leol yn y dyfodol.