Coronavirus: Prif swyddfeydd gweinyddol a Gwasanaethau i Gwsmeriaid
O 3pm dydd Gwener 20 Mawrth, bydd pob Canolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid – ac eithrio Tŷ Penallta – ar gau am gyfnod amhenodol.
Mae sawl ffordd arall o dalu:
- Talu ar-lein
- Sefydlu debyd uniongyrchol drwy ffonio 01443 815588
- Talu ddydd a nos drwy ein llinell dalu awtomataidd – 01443 863366
- Ffonio ein llinell dalu ar 01443 866570 – dydd Llun i ddydd Iau, 8.30am – 5pm; a dydd Gwener, 8.30am – 4.30pm
- Drwy eich banc, gan ddefnyddio'r cyfleuster bancio dros y ffôn neu ar-lein
Bydd Tŷ Penallta ar agor o hyd ar gyfer apwyntiadau hanfodol yn unig.
Bydd pob gwasanaeth arall ar gael ar-lein yn www.caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 815588.