Contractau a ddyfarnwyd
Mae'r cyngor yn sefydliad cymhleth sy'n darparu ystod amrywiol o nwyddau, gwaith a gwasanaethau i gymunedau'r fwrdeistref sirol.
Rydym yn gwario tua £230m bob blwyddyn gyda darparwyr trydydd parti, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod y gweithgaredd caffael nid yn unig yn cyd-fynd â gofynion ein cymunedau, ond hefyd yn broses deg, tryloyw, ac yn gadarn yn gyfreithiol.
CONTRACTAU BYW CONTRACTAU ARCHIF
Contractau cludiant
System Brynu Ddeinamig
Rydym wedi sefydlu System Brynu Ddeinamig (DPS) ar gyfer darparu cludiant o ansawdd uchel a chost effeithiol ar gyfer gofynion yr Uned Cludiant Integredig. Mae'r gofynion yn cynnwys tacsis, bysiau mini a cherbydau hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae'r ddogfen isod yn rhoi manylion yr holl DPS a ddyfarnwyd gan y cyngor ers mis Gorffennaf 2015.
Trafnidiaeth DPS - Cofnod Cystadleuaeth Fach - Lot 1 (PDF)
Trafnidiaeth DPS - Cofnod Cystadleuaeth Fach - Lot 2 (PDF)
Trafnidiaeth DPS - Cofnod Cystadleuaeth Fach - Lot 3 (PDF)
Contractau bysiau ysgol a choleg
Rydym wedi sefydlu Fframwaith Aml-Ddarparwyr ar gyfer darparu cludiant o ansawdd uchel a chost-effeithiol ar gyfer gofynion yr Uned Gludiant Integredig. Natur y Fframwaith yw darparu Contractau Dynodedig Cartref i Ysgol / Bws Coleg dynodedig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n derbyn cludiant am ddim.
Mae'r ddogfen isod yn rhoi manylion am yr holl gontractau bysiau a ddyfarnwyd ers cychwyn y trefniant ar y 1 Ionawr 2015.
Bysiau Trafnidiaeth - Cofnod Cystadleuaeth Fach (PDF)
Rhaglen Ysgolion Technoleg Addysg
System Brynu Ddynamig – Darparu Technoleg Addysg a Gwasanaethau Cysylltiedig
Mae CBS Caerffili, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn arwain ar ddatblygu un sianel gaffael drwy System Brynu Ddynamig (y System) er mwyn i awdurdodau lleol brynu cynhyrchion technoleg a gwasanaethau cysylltiedig ar ran eu hysgolion.
Gwahoddir y cyflenwyr hynny a sefydlir ar y System i gymryd rhan mewn cystadlaethau bach ar gyfer eu lot/lotiau priodol pan fydd cyfle. Mae'r ddogfen atodedig yn rhestru canlyniadau'r cystadlaethau bach a'r Cyflenwyr a sefydlir ar y System ar gyfer eu lot priodol.
Os oes gennych chi fel Cyflenwr ddiddordeb mewn gwneud cais am ymuno â'r System neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch chi, cysylltwch â caffaeliad@caerfili.gov.uk.