Cymorth busnes sydd eisoes yn bodoli

Mae rhedeg busnes yn gofyn am amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys rheolaeth ariannol, gallu trefniadol, gwybodaeth farchnata ac ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol a iechyd a diogelwch.

Ychydig iawn o bobl sydd yn cychwyn mewn busnes sy’n berchen ar y sgiliau hyn i gyd i ddechrau.  Gallem helpu i ddatblygu yr arbenigedd yr ydych ei angen i lwyddo.

Mae'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes yn darparu ystod o gefnogaeth i'ch helpu i ddechrau eich busnes a chymorth bwysig tra bod y busnes yn tyfu.

Ar gyfer trafodaeth gychwynnol am yr hyn y gallwn ei gynnig i'ch busnes cysylltwch â'r Tîm Adnewyddu Menter Busnes.

Cyngor a chefnogaeth Llywodraeth Cymru

Mae Busnes Cymru yn cynnig cymorth a chyngor i helpu i redeg eich busnes yn effeithlon, gan gynnwys rheoli eich staff, deall treth, a gwybod eich cyfrifoldebau.

Os oes angen cymorth pellach, ffoniwch  Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000. Ar gael rhwng 8am a 6pm, ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar wyliau'r banc. 

Busnes Superfast Cymru

Gall Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu’ch busnes i wella cyllidebau, cyrraedd mwy o gwsmeriaid a symleiddio'ch prosesau gwaith drwy ddefnyddio rhaglen gymorth am ddim a gynlluniwyd i'ch helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg ar-lein i barhau i dyfu eich busnes.

Dyma’r hyn y mae ein gwasanaeth cymorth am ddim yn cynnwys:
https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy/sut-y-gallwn-ni-helpu
neu Ffoniwch 03000 6 03000

Cysylltwch â ni

Elsewhere on the web

Busnes Cymru