Sefydliadau cefnogi busnes

Fforymau, rhwydweithiau a gwasanaethau cymorth busnes cysylltiedig i'ch helpu i hyrwyddo eich cynnyrch a gwasanaethau.

Fforwm Busnes Caerffili 

Fforwm Busnes Caerffili yw eich arena ar gyfer cysylltu â'ch cwsmeriaid a chyflenwyr, dysgu sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i'ch busnes, a chael dylanwad ar lywodraeth leol a rhanbarthol ar faterion sy'n effeithio ar eich busnes.

Cymdeithas Twristiaeth Caerffili

Mae Cymdeithas Twristiaeth Caerffili yn rhwydwaith sefydledig o fusnesau twristiaeth lleol ac atyniadau ymwelwyr a ffurfiwyd i hyrwyddo twristiaeth o fewn  Bwrdeistref Sirol Caerffili. Aelodaeth yw £25.00 y flwyddyn. 

Siambr Fasnach Bargod

Mae Siambr Fasnach Bargod yn anelu at gynrychioli busnesau  Ardal Bargod Fwyaf er budd y gymuned fusnes a masnachol.

Partneriaeth Manwerthu Coed Duon

Mae'r bartneriaeth yn rhad ac am ddim i ymuno ar gyfer unrhyw manwerthwr sy’n masnachu ar hyn o bryd yng nghanol tref Coed Duon.

  • Rhif Ffôn: 01495 224893

Siambr Fasnach Trecelyn a'r Cylch

Mae Siambr Fasnach yn ceisio hyrwyddo cysylltiadau busnes da yn  ardal Trecelyn.

  • Rhif Ffôn: 01495 244557

Siambr Fasnach Rhisga

Mae Siambr Fasnach Rhisga yn cynrychioli busnesau yn ardal Rhisga a Phont-y-meistr, mewn mentrau masnachol penodol. 

  • Rhif Ffôn: 01633 601829 

Busnes mewn Ffocws

Mae ein tîm o Gynghorwyr yn fedrus o ran helpu pobl busnes newydd i gael eu syniadau  ar waith ac unwaith eu bod yn masnachu yn eu cefnogi gyda chyngor realistig ac ymarferol.

Canolfan Fusnes

Cymorth am ddim a chyngor diduedd ar gyfer busnesau newydd a sefydledig.

Busnes Cymru 

Gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru yw Busnes Cymru. Mae gennym ganolfannau rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru, ac rydym yn cynnig cymysgedd o gymorth ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, yn ogystal â gweithdai hyfforddiant a chyngor i unigolion.  

Dechrau eich busnes: Mae Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth penodol ar gyfer y cam cyn dechrau busnes ac ar gyfer busnesau newydd. Drwy ddefnyddio nifer o ddulliau diagnostig ar gyfer busnesau, bydd ein timau cynghori yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gweithredu cynhwysfawr ac i’ch helpu i oresgyn unrhyw heriau sy’n codi. 

Tyfu eich busnes: O chwilio am gyfleoedd am gyllid i archwilio marchnadoedd rhyngwladol newydd, mae gan Busnes Cymru yr adnoddau sydd eu hangen i’ch helpu wrth ichi geisio ehangu a thyfu eich busnes

Gallwch ddod o hyd i ragor o gymorth neu gyngor busnes drwy gysylltu â ni:

Gwefan:  busnescymru.llyw.cymru 
Phone: 03000 6 03000
Tanysgrifio i’r cylchlythyr
Ein dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol Facebook , Twitter , LinkedIn , Youtube , Instagram.

Busnes Superfast Cymru

Gall Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu’ch busnes i wella cyllidebau, cyrraedd mwy o gwsmeriaid a symleiddio'ch prosesau gwaith drwy ddefnyddio rhaglen gymorth am ddim a gynlluniwyd i'ch helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg ar-lein i barhau i dyfu eich busnes.

Dyma’r hyn y mae ein gwasanaeth cymorth am ddim yn cynnwys:
https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy/sut-y-gallwn-ni-helpu
neu Ffoniwch 03000 6 03000

Banc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Gall busnesau gael benthyciadau a buddsoddiad o £1,000 hyd at £5m. Darganfyddwch os ydych yn gymwys ar bancdatblygu.cymru.

Go Wales

Mae Go Wales yn adeiladu perthnasau gyda chyflogwyr lleol, myfyrwyr a graddedigion i gynnig lleoliadau gwaith o safon uchel, swyddi, profiad gwaith a academïau hyfforddi.

Canolfan Byd Gwaith

Mae gan Canolfan Byd Gwaith ystod eang o wasanaethau a gall eich helpu fel cyflogwr.

Busnes Cymru

Darparu cymorth busnes i bobl sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnes. Mae cymorth ar gyfer busnes yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a ddarperir ar-lein, dros y ffôn drwy Linell Gymorth Busnes Cymru, ac wyneb yn wyneb trwy ein canolfannau Busnes Cymru.

Cwmpas

Mae Cwmpas yn helpu i cyd-weithredwyr, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol. Darparu cefnogaeth ymatebol, dibynadwy a hyblyg.

Cysylltwch â ni