Dod â'ch busnes i Fwrdeistref Sirol Caerffili

Gallwn ni eich helpu i gychwyn busnes newydd neu ddod â'ch busnes presennol i Fwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae'r Tîm Cymorth Menter Busnes yn cynnwys Prif Swyddog Datblygu Busnes a Swyddog Cymorth Buddsoddi sy'n gyfrifol am gefnogi twf a datblygiad busnes yn y Fwrdeistref Sirol. Mae gan y tîm gymorth marchnata a chyfathrebu hefyd.

Gall y Tîm Cymorth Menter Busnes:

  • Eich helpu i gael gafael ar grantiau, benthyciadau a chyfalaf ecwiti
  • Eich helpu chi i ddod o hyd i adeiladau busnes fforddiadwy
  • Eich helpu chi i recriwtio a hyfforddi staff
  • Eich cyflwyno i asiantaethau cymorth busnes allweddol a chysylltiadau CBSC
  • Cynghori busnesau sy'n masnachu neu'n edrych i ddechrau masnachu yn rhyngwladol

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cymorth Menter Busnes:

Cyngor a chymorth Llywodraeth Cymru - Dyma Fusnes. Dyma Gymru

Mae'r chwiliad am gyfleoedd newydd, mentrau newydd a phartneriaethau newydd yn sbarduno arloesedd ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amgylchedd cryf, sefydlog a diogel ar gyfer menter sydd wastad yn agored i syniadau newydd.

Dyma ychydig o resymau i ddod â'ch busnes i Gymru: 

  • Mae isadeiledd economaidd Cymru yn gadarn ac mae'r gweithlu'n gymwysedig ac yn fedrus mewn amrywiaeth o feysydd, o weithgynhyrchu traddodiadol i wyddorau bywyd.
  • Mae Cymru yn gartref i wyth o Ardaloedd Menter, pob un yn canolbwyntio ar sectorau diwydiant penodol
  • Mae Cymru yn buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu ac arloesi
  • Mae Cymru yn cynnig ansawdd bywyd eithriadol - tirweddau trawiadol a thraethau hardd, chyfleusterau diwylliannol a chwaraeon

Cymorth Llywodraeth Cymru sydd ar gael:

  • Trefnir ymweliadau lleoliad o fewn pum niwrnod o'r cyswllt cyntaf
  • Pecyn cymorth wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes
  • Mynediad at rwydweithiau allweddol a gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi
  • Cyngor ynghylch cymhellion a chymorth ariannol perthnasol
  • Mynediad at gronfa ddata o dir a mathau o eiddo masnachol sydd ar werthu ac ar gael i’w rhentu ledled Cymru: https://businesswales.gov.wales/cy/cronfa-ddata-eiddo
  • Penderfyniadau cyflym gan Lywodraeth Cymru
  • Rhwydweithiau diwydiant a chadwyn gyflenwi o ansawdd uchel

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Just Ask Wales

Cysylltwch â ni

Elsewhere on the web

Just Ask Wales