Map Tyrbin Gwynt 

Mae’r map rhyngweithiol isod yn dangos tyrbinau gwynt sy’n weithredol (gwyrdd); wedi eu caniatáu (melyn); ac yn cael eu cynllunio (coch). Mae’r tyrbinau hefyd yn cael eu dosbarthu yn ôl eu maint yn seiliedig ar eu huchder i ben y llafn a’r nifer o dyrbinau (gweler y tabl isod). Mae’r maint yn cael ei gynrychioli gan wahanol feintiau dotiau - micro yw’r lleiaf a mawr iawn yw’r mwyaf.

Mae’r symbolau sgwâr yn cynrychioli tyrbinau gwynt sydd wedi cael eu gwrthod, wedi dod i ben, wedi cael eu tynnu’n ôl neu'n aros am gwmpasau amgylcheddol.

  Bydd gan ddatblygiad tyrbin yn y deipoleg uchder pen y llafn o: a bydd yn cynnwys:
MICRO (Mi) 25m neu lai neu bydd yn do wedi’i osod Dim ond un tyrbin
BACH (B) 50m neu lai Tri thyrbin neu lai
CANOLIG (C) 80m neu lai Pedwar tyrbin neu lai
MAWR (M) 109m neu lai Pum tyrbin neu lai
MAWR IAWN (MI) Mwy na 109m Unrhyw nifer o dyrbinau
Noder: Bydd unrhyw grŵp o chwech neu fwy o dyrbinau yn perthyn i’r deipoleg mawr iawn dim ots beth yw uchder y tyrbinau.

Mae pob tyrbin unigol yn cael eu cynrychioli ar y map er efallai bydd angen i chi chwyddo i mewn i weld hyn. Mae hefyd yn bosib clicio ar bob dot i weld mwy o wybodaeth.

Mae’r mapiau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan bob Awdurdod Cynllunio Lleol yn Ne Ddwyrain Cymru. 

Cliciwch yma i weld y map ar sgrin lawn