Ymgynghoriadau CDLI
Rhestrir yr holl ymgynghoriadau cyfredol a gorffenedig ar yr 2il CDLl Newydd isod.
Ymgynghoriad
|
Disgrifiad
|
Cam yr Ymgynghoriad
|
Gwybodaeth Bellach
|
Adroddiad Adolygu Drafft
|
Mae'r Adroddiad Adolygu Drafft ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021 (CDLl Mabwysiedig) yn ystyried y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth weithredu'r CDLl mabwysiedig ac yn ystyried y materion sy'n hysbysu'r penderfyniad ynghylch os oes angen i'r CDLl mabwysiedig gael ei ddiwygio.
|
Ymgynghoriad caeedig
24 Chwefror 2020 -
16 Mawrth 2020
|
Adroddiad Adolygu
|
Cytundeb Cyflenwi Drafft
|
Mae'r Cytundeb Cyflenwi yn cynnwys amserlen ar gyfer paratoi a chyflwyno'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd, ac mae'n cynnwys Cynllun Cynnwys Cymunedau sy'n nodi sut y gall y cyhoedd a grwpiau eraill sydd â diddordeb gyfrannu at baratoi'r cynllun.
|
Ymgynghoriad caeedig
25 Ionawr 2021 -
29 Mawrth 2021
|
Cytundeb Cyflenwi
|
Arfarniad Cynaladwyedd Integredig -Adroddiad Cwmpasu
|
Mae'r Adroddiad Cwmpasu ar gyfer Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd Caerffili yn amlinellu'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Arfarniad Cynaladwyedd Integredig y cynllun.
|
Ymgynghoriad caeedig
23 Mawrth 2022 -
26 Ebrill 2022
|
Adroddiad Cwmpasu
|
Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)
|
Y Strategaeth a Ffefrir, mae hwn yn nodi:
- Y materion allweddol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol;Y Weledigaeth, Nodau ac Amcanion;
- Maint a lleoliad cyffredinol twf yn y dyfodol o ran poblogaeth, tai a swyddi;
- Polisïau strategol a fydd yn cyflawni/gweithredu'r strategaeth.
|
Ymgynghoriad yn agor
19 Hydref 2022 -
30 Tachwedd 2022
|
Cynllun Cyn-Adneuo (Strategaeth a Ffefrir)
|
Adroddiad ISA Cychwynnol
|
Cyhoeddir yr Adroddiad ISA Cychwynnol hwn ochr yn ochr â'r Strategaeth a Ffefrir.
|
Ymgynghoriad yn agor
19 Hydref 2022 - 30 Tachwedd 2022
|
Adroddiad ISA Cychwynnol
|