Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol
I sicrhau bod pob CDLl wedi'u diweddaru, gofynnir i awdurdodau cynllunio lleol adolygu eu CDLl o leiaf unwaith bob pedair blynedd ar ôl eu mabwysiadu, neu yn gynharach os yw canfyddiadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol yn nodi hynny.
Mae'r Adroddiad Adolygu ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig Bwrdeistref Sirol Caerffili hyd at 2021 (CDLl Mabwysiedig) yn ystyried y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth weithredu'r CDLl mabwysiedig ac yn ystyried y materion sy'n hysbysu'r penderfyniad ynghylch os oes angen i'r CDLl mabwysiedig gael ei ddiwygio.
Yn dilyn ymgynghori ym mis Chwefror/mis Mawrth 2020, cyflwynwyd adroddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r Adroddiad Adolygu terfynol i'r Cyngor. Daw'r adroddiad i'r casgliad y dylai'r adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig cychwyn ar unwaith.
Daw'r adroddiad i'r casgliad y dylai'r adolygiad llawn o'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig cychwyn ar unwaith.