Arfarniad Cynaladwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Arfarniad Cynaladwyedd Integredig
Mae gofyniad statudol i gynnal arfarniad cynaliadwyedd ac asesiad amgylcheddol strategol mewn perthynas â'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd. Mae datblygu cynaliadwy wrth galon proses y cynllun datblygu, a rhaid i bob cynllun datblygu sicrhau ei fod yn cyfrannu at gyflawni nodau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn bodloni'r gofynion canlynol:
- Arfarniad Cynaladwyedd ac Asesiad Amgylcheddol Strategol;
- Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb;
- Asesiad o'r Effaith ar Iechyd
- Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg;
- Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nod yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig yw llywio a dylanwadu ar y broses o wneud cynllun gyda’r bwriad o osgoi a lliniaru effeithiau negyddol a gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol.
Mae pum cam allweddol i'r Arfarniad Cynaladwyedd Integredig sydd wedi’u hintegreiddio i’r broses o baratoi’r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd:
Cam yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig
|
Cam y Cynllun Datblygu Lleol
|
Cam A - Cwmpasu
|
Galwad am safleoedd ymgeisiol
|
Cam B – Arfarnu'r dewisiadau amgen
|
Y Strategaeth a Ffefrir
|
Cam C – Asesiad o'r Cynllun Datblygu Lleol wedi'i Adneuo
|
Cynllun wedi'i adneuo
|
Cam D – Archwilio a Mabwysiadu
|
Archwilio
|
Cam E – Monitro
|
Cyhoeddi Adroddiad Monitro Blynyddol
|
Adroddiad Cwmpasu
Mae'r Adroddiad Cwmpasu ar gyfer Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd Caerffili yn amlinellu'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Arfarniad Cynaladwyedd Integredig y cynllun. Yr adroddiad hwn yw cam cyntaf y broses ac mae'n nodi'r materion a'r amcanion y bydd strategaethau, polisïau a chynigion y Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd yn cael eu hasesu yn eu herbyn. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o'r cynlluniau, polisïau a rhaglenni sy'n berthnasol i baratoi'r Ail Gynllun Datblygu Lleol Newydd, ynghyd ag adolygiad o nodweddion sylfaenol amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y Fwrdeistref Sirol.
Nid yw'r ddogfen lawn wedi'i chyfieithu eto oherwydd ei chynnwys technegol. Fodd bynnag, mae crynodeb annhechnegol ar gael yn Gymraeg drwy'r ddolen ganlynol:
Adroddiad ISA Cychwynnol
Mae Adroddiad cychwynnol yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn cyflwyno asesiad o'r Strategaeth a Ffefrir ac mae'n cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag ef.
Mae’n asesu’r opsiynau twf, a’r dewisiadau amgen strategol, sy'n cael eu hystyried wrth lunio’r Strategaeth a Ffefrir yn erbyn amcanion yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a gafodd eu datblygu ac sy'n cael eu nodi yn yr Adroddiad Cwmpasu.
Bydd unrhyw sylwadau sy'n dod i law yn ystod cyfnod ymgynghori’r Strategaeth a Ffefrir (Hydref 19 – Tachwedd 30 2022) yn cael eu hystyried a bydd Adroddiad diwygiedig yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig yn cael ei gyhoeddi wedi hynny ochr yn ochr â’r Cynllun wedi'i Adneuo.