FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

A yw fy mhroject yn atebol i dalu ASC?

Mae’r ceisiadau cynllunio canlynol yn atebol i dalu ASC:

  • Unrhyw ddatblygiad sy’n creu gofod llawr newydd
  • Datblygiad sy’n creu o leiaf un annedd newydd.
  • Unrhyw ddatblygiad sy’n cynnig trosi adeilad presennol nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd (adeilad sydd wedi cael ei ddefnyddio’n gyfreithlon am gyfnod parhaus o chwe mis o fewn y 3 blynedd diwethaf).

Gan gymryd nad yw’r datblygiad yn amharu ar waith:

  • i greu neu gyflawni gwaith ar adeilad nad yw pobl yn ei ddefnyddio fel arfer
  • i greu neu gyflawni gwaith ar adeilad y mae pobl yn ei ddefnyddio’n ysbeidiol at y diben o archwilio neu gynnal a chadw peiriannau sefydlog, neu unrhyw ddatblygiad sy’n creu gofod llawr newydd
  • sydd ond yn effeithio ar y tu mewn i adeiladi
  • drosi unrhyw adeilad a ddefnyddiwyd yn flaenorol fel annedd ar gyfer dwy aelwyd neu fwy a oedd yn byw ar wahân. 

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Canllawiau ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Mae maint datblygiad yn cael ei gyfrifo ar sail ei Ardal Mewnol Gros (AMG). Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfëwyr Siartredig wedi llunio canllaw ar sut i gyfrifo AMG, a nodir yn 6ed Rhifyn y Cod Arferion Mesur.

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio

Nid yw pob datblygiad yn atebol i dalu ASC. Fodd bynnag, y Cyngor, fel yr Awdurdod Codi Tâl, sy’n penderfynu a yw datblygiad arfaethedig yn atebol i dalu ASC.

I’n helpu i wneud hyn, rhaid i bob cais cynllunio gynnwys Ffurflen Pennu ASC. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau gan berchnogion tai a materion a gedwir yn ôl yn dilyn caniatâd cynllunio amlinellol, a cheisiadau am dystysgrifau datblygiad cyfreithlon. Gall y Canllawiau ar gwestiynau’r ffurflen ASC eich helpu i gwblhau’r ffurflen.

Ni fyddwn yn cofrestru nac yn cymeradwyo’r cais nes i chi gyflwyno’r ffurflen hon.

Beth i’w wneud os yw eich project yn atebol i dalu ASC

Os cewch ganiatâd cynllunio a’ch bod yn atebol i dalu ASC, byddwn yn cyhoeddi 'hysbysiad atebolrwydd'. Mae hwn yn nodi faint o ASC y bydd angen ei dalu. Am fanylion ewch i’r Adran ‘Beth i’w wneud os caiff eich cais ei gymeradwyo a’ch bod yn atebol i dalu ASC?’.

Am fanylion am y broses ASC, darllenwch y nodyn ar y broses ASC.

Cysylltwch â ni