Trwydded gweithredwr hurio preifat

Mae gweithredwr hurio preifat wedi’i drwyddedu i dderbyn neu wahodd y bwciadau ar gyfer cerbydau hurio preifat. I fod yn yrrwr hurio preifat hunangyflogedig, rhaid ichi gael trwydded gweithredwr hurio preifat oddi wrth yr awdurdod trwyddedu, yn ogystal â’ch trwyddedau gyrrwr hurio preifatcherbyd hurio preifat.

Neu fel arall, gall gyrwyr weithio i weithredwr hurio preifat arall. Mae gan rai gweithredwyr eu fflyd cerbydau trwyddedig eu hunain y mae gyrwyr yn eu defnyddio, ac mae eraill yn cyflogi gyrwyr gyda’u cerbydau eu hunain. Beth bynnag, rhaid i bob cerbyd fod â’i drwydded cerbyd hurio preifat ei hun, a rhaid i bob gyrrwr fod â’i drwydded gyrrwr hurio preifat/cerbyd hacni ei hun.

Cyn y gellir rhoi trwydded gweithredwr, bydd angen i’r cyngor fod wedi’i fodloni bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, felly byddwn yn cymryd hanes troseddol ymgeisydd i ystyriaeth wrth ystyried ei gais. Felly bydd yn ofynnol ichi ddarparu tystysgrif datgeliad sylfaenol oddi wrth Disclosure Scotland. Os ydych yn yrrwr tacsi trwyddedig eisoes gyda’r Cyngor ni fydd yn ofynnol ichi ddarparu datgeliad sylfaenol, gan y bydd y Cyngor yn ystyried unrhyw fanylion a ddarparwyd ar y dystysgrif datgeliad manwl a ddarparwyd gennych ynghynt. Rhaid ichi hefyd ymgynghori â’n hadran gynllunio ynghylch y newid defnydd arfaethedig i’r eiddo hwnnw, a chynnwys y dogfennau caniatâd cynllunio neu dystiolaeth ysgrifenedig nad yw caniatâd cynllunio’n ofynnol gyda’ch cais. Os yw’n briodol bydd hefyd yn ofynnol ichi ddarparu tystiolaeth o gydsyniad landlord.

Amodau ymgeisio

Caiff amodau’r drwydded eu hesbonio yn ein pecyn cais isod.

Gofynion Deddf Mewnfudo 2016

Erbyn hyn mae dyletswydd ar awdurdodau trwyddedu i gyflawni gwiriadau mewnfudo ar yr holl ymgeiswyr i fod yn yrwyr cerbydau hacni a cherbydau a hurio preifat a gweithredwyr cerbydau hurio preifat.

Yn ogystal â’r gwiriadau perthnasol i ganfod a yw person yn ‘berson addas a phriodol’, ni all awdurdodau lleol roi trwydded gyrrwr neu weithredwr oni fônt wedi’u bodloni bod gan yr ymgeisydd hawl i aros a gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Er y gall awdurdodau lleol roi trwyddedau o’r fath i bobl sy’n destun rheolaeth fewnfudo ac sydd ag amser cyfyngedig yn unig i aros yn y Deyrnas Unedig, ni allant eu rhoi ond am gyfnod penodedig ac mae’n rhaid i’r cyfnod hwnnw ddod i ben ar ddiwedd neu cyn diwedd cyfnod y caniatâd i aros. Bydd trwyddedau’n mynd yn ddi-rym yn awtomatig pan fydd y statws mewnfudo’n newid ac mae deiliad y drwydded yn dod yn anghymwys i breswylio a gweithio’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig. Bydd unrhyw berson nad yw’n dychwelyd ei drwydded yn cyflawni trosedd.

Bydd yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd am drwydded gyrrwr neu weithredwr ddarparu copïau gwreiddiol o’r dogfennau rhagnodedig i brofi eu statws mewnfudo a hawl i weithio. Bydd yn ofynnol i’r Cyngor gadw copïau o’r dogfennau gwreiddiol mae wedi’u gweld ac mae’n bosibl y bydd yn gwirio statws mewnfudo ymgeisydd ac yn rhannu gwybodaeth gyda’r Swyddfa Gartref.

Canllawiau Statudol i Awdurdodau Trwyddedu

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Sut i wneud cais

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais.

Pecyn cais am drwydded gweithredwr cerbyd hurio preifat (neu ei hadnewyddu) (PDF 109kb)

Os ydych yn cyflwyno’ch cais trwy’r post neu’n bersonol, dylid postio/mynd â ffurflenni wedi’u llenwi at yr Awdurdod Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Gwneud apwyntiad

Er mwyn osgoi oedi i’ch cais, dylech sicrhau y gallwch ddarparu’r holl ddogfennau adnabod sy’n ofynnol ar gyfer y cais am drwydded. Ceir eu manylion yn y pecyn cais. 

Rydym yn gweithredu system apwyntiadau yn unig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â ni cyn dod i’n swyddfeydd. Gan fod yn rhaid inni weld yr holl ddogfennau gwreiddiol, ni allwn dderbyn ceisiadau trwy e-bost/ffacs.

Ar ôl cael tystysgrif datgeliad sylfaenol foddhaol oddi wrth Disclosure Scotland, lle bo’n briodol caiff eich trwydded ei rhoi ichi. Gall y broses gymryd rhwng pythefnos ac wyth wythnos.

Adnewyddu 

Caiff trwyddedau eu rhoi am gyfnod o hyd at 5 mlynedd a rhaid eu hadnewyddu os ydych eisiau parhau i weithredu cerbydau hurio preifat.

Caiff ffurflenni adnewyddu eu hanfon atoch trwy’r post ychydig o wythnosau cyn bod eich trwydded gyfredol i fod i ddod i ben.

Bydd angen ichi lenwi’r ffurflen gais uchod ac amgáu tystiolaeth o dystysgrif datgeliad sylfaenol oddi wrth Disclosure Scotland. Dylech wneud cais am hon cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl ichi gael eich llythyr atgoffa. Nid oes angen darparu dogfennau caniatâd cynllunio a/neu gydsyniad landlord eto. 

Menter Twyll Genedlaethol: Mae dyletswydd ar yr Awdurdod hwn i ddiogelu’r arian cyhoeddus mae’n ei weinyddu. I’r perwyl hwnnw mae’n bosibl y bydd yn defnyddio’r wybodaeth a rowch ar eich ffurflen gais i atal a chanfod twyll. Mae’n bosibl y bydd hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn. Dilynwch y ddolen hon i gael mwy o wybodaeth am y Fenter Twyll Genedlaethol.
Cysylltwch â ni

Related Pages

Taxi licence policies