Sgaffaldiau a phalisau
Mae ar unrhyw sgaffaldiau neu balisau sy’n cymryd lle neu’n estyn allan ar neu dros y Briffordd angen trwydded sgaffaldiau a rhaid cael caniatâd oddi wrthym ni.
Nid cyfrifoldeb y cwsmer (na’i gontractwr) yw gwneud cais am y drwydded hon. Cyfrifoldeb y cwmni sgaffaldiau yw sicrhau y gwnaethpwyd cais am y drwydded a’i bod wedi cael ei rhoi.
Amodau’r drwydded
Mae’n bwysig bod y rheoliadau a rheolaethau perthnasol ar waith yn briodol cyn a thrwy gydol cyfnod y drwydded. Felly, rhaid peidio â dechrau ar y gwaith nes bod y gwaith papur swyddogol, ynghyd â braslun, wedi cael ei gwblhau a bod y drwydded wedi cael ei rhoi. Rhaid i’r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded gael eu darllen yn ofalus a rhaid cadw atynt bob amser.
Mae gofynion sylfaenol yr amodau fel a ganlyn:
- Rhaid cymryd yr holl ragofalon angenrheidiol i ddiogelu cerddwyr a phob math arall o draffig trwy ddefnyddio rhodfa i gerddwyr.
- Rhaid i’r sgaffaldiau / palisau gael eu codi fel bod 2.1m o uchdwr gyda gorchudd llawn uwchben a lled 1.2m o droetffordd yn cael eu cadw’n glir i gerddwyr bob amser a rhaid cadw llif di-dor o draffig.
- Eich bod yn derbyn atebolrwydd am unrhyw ddifrod i’r droetffordd neu’r gerbytffordd a all godi oherwydd bodolaeth y sgaffaldiau / palisau.
- Eich bod yn derbyn atebolrwydd am unrhyw hawliad neu achos a all godi oherwydd bodolaeth y sgaffaldiau / palisau.
- Darparu goleuadau rhybudd yn ystod oriau tywyllwch.
- Tynnu ymaith sgaffaldiau / palisau cyn gynted â bod y gwaith wedi’i gwblhau.
- Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir ar apêl os yw person yn torri darpariaeth A.172 o’r Ddeddf mae’n euog o drosedd ac yn agored i gael dirwy heb fod yn fwy na £100; ac os yw’n parhau â’r drosedd ar ôl cael euogfarn, mae’n euog o drosedd arall ac yn agored i gael dirwy heb fod yn fwy na £2.00 am bob dydd yr eir ymlaen â’r drosedd.
- Deddf Priffyrdd 1980 – Is-adran 175(A) (Pobl Anabl). Ni ddylai gwaith ffordd rwystro pobl ddall ac anabl yn ddiangen rhag mynd heibio’n ddilyffethair. Dylid darparu rampiau a rhwystrau lle bo angen i ddiogelu cerddwyr dall ac anabl.
- Mae’r gymeradwyaeth hon yn ddilys am un mis ar ôl dyddiad y llythyr hwn ar yr amod y cawn wybod eich bod yn derbyn yr amodau hyn. Pan ddaw’r gymeradwyaeth hon i ben, os oes angen y sgaffaldiau / palisau o hyd rhaid ichi wneud cais arall gan roi 48 awr o rybudd.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar lein neu lawrlwytho ffurflen gais.
Lawrlwytho ffurflen gais i godi sgaffaldiau (PDF 17kb)
Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn yn eich hysbysu am y penderfyniad i roi’r drwydded naill ai dros y ffôn neu yn ysgrifenedig cyn pen 48 awr.
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o ffioedd trwyddedau
I gael mwy o wybodaeth am drwyddedau sgaffaldiau, dylech gysylltu â ni.