Trwydded i osod gwrthrychau ar y briffordd
I osod byrddau, cadeiriau neu gelfi dros dro eraill ar y palmant yng Nghymru a Lloegr mae arnoch angen trwydded oddi wrth eich awdurdod lleol.
Amodau’r drwydded
Amodau’r drwydded palmant (PDF)
Nodiadau cyfarwyddyd
Caffis stryd ar y briffordd: Nodyn cyfarwyddyd i ymgeiswyr (PDF)
Ffioedd
Mae’r ffioedd cychwynnol fel a ganlyn: -
- £408 am gyfleusterau lluniaeth (i gynnwys TAW - £308 am gymeradwyaeth cynllunio am newid defnydd a £100 am gymeradwyaeth priffyrdd)
- £160 am gyfleuster arddangos / hysbysebu (i gynnwys TAW – £60 am gymeradwyaeth cynllunio a £100 am gymeradwyaeth priffyrdd)
- Y ffi adnewyddu flynyddol ddilynol i ymestyn y drwydded ar ôl y 12 mis cyntaf fydd £100, gyda chost gysylltiedig byrddau a chadeiriau ar ei phen
- Codir £7.50 am bob cadair bob blwyddyn (Ebrill-Mawrth) a chost byrddau yw £30 yr un
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais ar lein.
Cydsyniad mud
Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid i’r cyngor brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 56 diwrnod dylech gysylltu â ni. Gallwch wneud hyn ar lein os gwnaethoch gais trwy’r gwasanaeth Cymorth Hyblyg i Fusnesau neu gallwch ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Cysylltwch â
Priffyrdd
Tŷ Penallta
Parc Tredomen
Ystrad Mynach, Hengoed
CF82 7PG
Ffôn: 01495 235265
E-bost: highwayslicence@caerphilly.gov.uk