Trwyddedau siopau a sinemâu rhyw

I redeg siop ryw sef mangre lle gwerthir teganau, llyfrau neu fideos rhyw – mae’n bosibl y bydd angen trwydded arnoch. I redeg lleoliad lle caiff ffilmiau di-gêl eu dangos i’r cyhoedd, bydd hefyd angen trwydded arnoch.

Fodd bynnag, cewch wneud cais i’r awdurdod lleol yn gofyn iddo hepgor y gofyniad am drwydded. 

Meini prawf cymhwysedd

Rhaid i ymgeisydd:

  • fod yn 18 oed o leiaf
  • peidio â bod wedi’i anghymhwyso rhag dal trwydded
  • bod wedi preswylio yn y Deyrnas Unedig o leiaf chwe mis yn union cyn y cais neu, os yw’n gorff corfforaethol, bod wedi’i gorffori yn y Deyrnas Unedig
  • fod yn berson na wrthodwyd rhoi neu adnewyddu trwydded iddo am y fangre dan sylw yn y 12 mis diwethaf oni fo’r gwrthodiad wedi’i wrthdroi ar ôl apêl

Crynodeb o’r drefn reoleiddio

Crynodeb o’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon

Amodau’r drwydded

Siopau a Sinemâu Rhyw – Amodau’r Drwydded (PDF 44kb)

Siopau a Sinemâu Rhyw – Canllawiau Polisi (PDF 1.4mb)

Siopau a Sinemâu Rhyw – Canllawiau Polisi Atodiadau 1 a 2 (PDF 1.3mb)

Ffioedd

Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau

Proses gwerthuso cais

Rhaid i ymgeiswyr gyflenwi’r canlynol: -

  • cynllun o’r safle (Graddfa 1:1250)
  • cynllun o’r fangre (Graddfa 1:50) yn nodi pob mynedfa ac allanfa
  • lluniadau sy’n dangos gwedd flaen y fangre bresennol a’r fangre arfaethedig (Graddfa 1:50)

Rhaid i ymgeiswyr hysbysu’r cyhoedd am eu cais trwy godi hysbysiad yn y fangre a thrwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur newydd lleol (gweler yr enghraifft isod). Rhaid darparu copi o’r papur newydd dim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl dyddiad y cais. Rhaid anfon copi o’r cais at y Prif Swyddog Heddlu, Heddlu Gwent, Pencadlys Rhanbarth ‘C’, Heol Coed Duon, Pontllanfraith, Coed Duon NP12 2XA dim hwyrach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad y cais.

Hysbyseb Hysbysiad Cyhoeddus Enghreifftiol (PDF 15kb)

Gwneud cais ar lein

Gallwch wneud cais ar lein.

Gwneud cais am drwydded ar gyfer sefydliad rhyw

Cydsyniad mud

Mae er budd y cyhoedd inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 2 fis, dylech gysylltu â ni. 

Cysylltwch â ni