Trwydded lotri

Mae Deddf Gamblo 2005 yn nodi wyth math o lotri gyfreithiol, ond dim ond tair sydd angen trwydded Comisiwn Gamblo neu gofrestru gydag awdurdod lleol. Mae canllaw cyflym ar sut i redeg lotri ar gael ar wefan  Comisiwn Gamblo.

Lotrïau sydd ddim angen trwydded

Nid oes angen trwydded ar y pum math o lotri a enwir fel:

  • Lotrïau achlysurol sy'n digwydd mewn digwyddiadau codi arian megis ffeiriau ysgol, ciniawau elusen i godi arian at ddibenion elusennol ac nid er elw preifat.  Dim ond yn y lleoliad ac yn ystod y digwyddiad y gellir gwerthu tocynnau.
  • Lotrïau cymdeithasau preifat ar gyfer aelodau'r gymdeithas hynny all gymryd rhan yn unig
  • Lotrïau gwaith lle dim ond y bobl sydd yn gweithio yn y man gwaith a'r bobl sydd ar eiddo'r gymdeithas all gymryd rhan
  • Lotrïau preswylwyr lle dim ond y bobl sy'n byw yn y fangre honno all gymryd rhan
  • Lotrïau cwsmeriaid lle dim ond cwsmeriaid busnes penodol all gymryd rhan

Cyfeiriwch at wefan y Comisiwn Gamblo i gael manylion ac amodau'r lotrïau sydd wedi'u heithrio rhag y broses drwyddedu/cofrestriad llawn.

Lotrïau SYDD angen trwydded

Lotrïau SYDD angen trwydded/cofrestru naill ai gan eich awdurdod lleol neu'r Comisiwn Gamblo yw:

  • Lotrïau cymdeithasau mawr -  mae yn lotri a hyrwyddir er budd y gymdeithas anfasnachol, sydd â nodau ac amcanion pendant ac sy'n bodloni'r diffiniad o gymdeithas anfasnachol a nodir yn y Ddeddf. Mae'r math hwn o lotri yn dod o dan y diffiniad o lotri fawr ac felly mae'n rhaid ei drwyddedu gan y Comisiwn Gamblo os mae’r elw’n gallu bod yn fwy na £20,000 mewn un lotri, neu’r enillion cyfunol mewn blwyddyn galendr  yn rhagori ar £250,000
  • Lotrïau'r Awdurdod Lleol-mae yn lotri sydd wedi ei hyrwyddo gan yr Awdurdod Lleol, ond gall ddefnyddio'r enillion am unrhyw bwrpas a ddymunir. Mae'r rhain angen trwydded gan y Comisiwn Gamblo
  • Lotrïau Cymdeithasau Bach - mae yn lotri lle na fydd yr elw yn fwy na £20,000 mewn un lotri ac nid yw'r elw cyfunol mewn blwyddyn galendr yn rhagori ar £250,000. Nid yw'r rhain yn gofyn am drwydded, ond mae angen cofrestru gyda'r awdurdod lleol lle bydd prif swyddfa'r gymdeithas wedi ei lleoli. Os yw'r terfynau hyn yn mynd i fod yn uwch, bydd yn Lotri Cymdeithas fawr a bydd angen trwydded gan y Comisiwn Gamblo (dylech wneud cais cyn i'r terfynau gael eu rhagori).

Cyfeiriwch at wefan y  Comisiwn Gamblo am fanylion llawn yr holl ofynion trwyddedu a chofrestru.

Hyrwyddo loterïau cymdeithas ac  awdurdod lleol (PDF)

Amodau trwydded

Cyfeiriwch at wefan y Comisiwn Gamblo. Fel arall cysylltwch â ni i drafod eich cynlluniau.

Ffioedd

Cliciwch yma am restr lawn o ffioedd trwydded

Sut i wneud cais

Pecyn Cais ar gyfer cofrestru cymdeithas anfasnachol (PDF)

Gyrrwch eich pecyn cais at yr Awdurdod Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.

Caniatâd dealledig

Mae'r broses ymgeisio yn cymryd 14 diwrnod fel arfer ac nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol i'r ceisiadau hyn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi aros nes bydd y cais wedi ei benderfynu cyn i chi fynd ymlaen.

Gwneud apwyntiad

Mae'r adran drwyddedu yn gweithredu system apwyntiad yn unig wrth ymweld â'u swyddfeydd. Os hoffech wneud apwyntiad neu os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cais cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni