Trwydded maes carafanau a phebyll

I redeg maes carafanau a phebyll mae arnoch angen trwydded.

Mae’n bosibl y caiff amodau eu gosod ar drwydded i ymdrin ag unrhyw un o'r canlynol:

  • cyfyngu ar pryd y gall carafanau fod ar y safle i bobl fyw ynddynt neu gyfyngu ar nifer y carafanau a all fod ar y safle ar unrhyw adeg benodol
  • rheoli’r mathau o garafanau ar y safle
  • rheoli lleoli’r carafanau neu reoleiddio’r defnydd o strwythurau a cherbydau eraill gan gynnwys pebyll
  • sicrhau y cymerir camau i wella’r tir, gan gynnwys plannu/ailblannu llwyni a choed
  • rheolaethau diogelwch tân a diffodd tanau
  • sicrhau bod cyfleusterau, gwasanaethau a chyfarpar glanweithdra ac o fathau eraill yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw

Gwneir ceisiadau am drwyddedau safle i’r awdurdod lleol mae’r tir o fewn ei ardal.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar lein.

Gwneud cais i redeg maes carafanau neu faes pebyll

Dweud wrthym am newid

Cydsyniad mud

Mae er budd y cyhoedd inni brosesu’ch cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen 56 diwrnod, dylech gysylltu â ni. 

Cysylltwch â ni