Cymeradwyo safleoedd bwyd
Os yw eich busnes bwyd yn paratoi neu'n trin bwyd sy'n dod o anifeiliaid i'w gyflenwi i fusnesau eraill, efallai bydd angen cymeradwyaeth gennym ni arnoch.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Cig mâl, paratoadau cig a chig wedi'i wahanu'n fecanyddol
- Cynhyrchion cig
- Molysgau deufalf byw a chynhyrchion pysgodfa
- Llaeth amrwd (ac eithrio llaeth gwartheg amrwd)
- Cynhyrchion llaeth
- Wyau (ac eithrio cynnyrch amrwd)
- Cynnyrch wyau
- Coesau brogaod a malwod
- Braster a chriwsion anifeiliaid wedi’u rendro
- Stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin
- Gelatin a colagen
- Rhai storfeydd oer a marchnadoedd cyfanwerthu
Nid oes angen cymeradwyaeth ar gyfer rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft, os yw eich busnes bwyd yn cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol (y person sy’n bwyta’r cynnyrch bwyd), ni fydd angen cymeradwyaeth ar eich busnes. Hefyd, efallai y cewch eich eithrio yn ddibynnol ar i ba raddau y mae'r busnes yn dymuno cyflenwi bwyd sy'n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill.
Hyd yn oed os nad oes angen i’ch busnes bwyd gael ei gymeradwyo, bydd dal angen i chi gofrestru eich busnes fel busnes bwyd gyda ni.
Ni allwch weithredu eich sefydliad bwyd nes ein bod ni wedi'i gymeradwyo. Fel rhan o'r broses gymeradwyo mae'n rhaid i chi roi gweithdrefnau ar waith i reoli diogelwch bwyd yn seiliedig ar egwyddorion yr Hazard Analysis Critical Control Point (HACCP).
Bydd y dogfennau HACCP yn rhan o’ch ‘system rheoli diogelwch bwyd’ a dylid eu teilwra i gyd-fynd â’ch busnes a dylent fod yn briodol i’r math o gynnyrch yr ydych yn bwriadu ei gynnig.
Sut i wneud cais am gymeradwyaeth
Ffioedd
Nid oes ffi gymeradwyo.
Cydsyniad tawel
Nid oes angen cydsyniad tawel. Mae er lles y cyhoedd ein bod ni’n ymweld â’ch eiddo cyn cymeradwyo, sy’n gallu cymryd ychydig wythnosau. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni.
Apeliadau
Os nad ydych yn hapus gyda'n penderfyniad i roi cymeradwyaeth, gallwch apelio i Lys yr Ynadon cyn pen 28 diwrnod o'r penderfyniad. Os ydych chi dal yn anhapus gyda phenderfyniad Llys yr Ynadon, gallwch apelio i Lys y Goron. Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i geisio adolygiad barnwrol.
Terfynau amser prosesu
Rydym yn ceisio prosesu ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth mor gyflym â phosibl. Fodd bynnag, ni allwn ystyried cymeradwyaeth oni bai ein bod ni wedi cael ffurflen gais lawn a'r holl ddogfennau perthnasol eraill, e.e. cynllun HACCP. Mae angen i ni hefyd gynnal arolwg manwl o’r safle cyn y gallwn roi cymeradwyaeth.
Rydym yn ceisio prosesu ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth mor gyflym â phosibl. Fodd bynnag, ni allwn ystyried cymeradwyaeth oni bai ein bod ni wedi cael ffurflen gais lawn a'r holl ddogfennau perthnasol eraill, e.e. cynllun HACCP. Mae angen i ni hefyd gynnal arolwg manwl o’r safle cyn y gallwn roi cymeradwyaeth. cysylltwch â ni.
Newidiadau i gymeradwyaeth
Ar ôl cael eich cymeradwyo, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid o ran gweithredwr busnes bwyd neu newid yn natur y busnes.