Plant mewn perfformiadau
Mae deddfwriaeth sy’n rheoli plant mewn adloniant yn ymdrin â phlant sy’n cymryd rhan mewn ‘perfformiadau’, gan gynnwys pob perfformiad a ddarlledir, ffotograffiaeth plant neu blant sy’n gwneud gwaith modelu.
Mae’r angen i fod â thrwydded yn dibynnu ar beth sy’n cael ei drefnu, nid ar bwy sy’n trefnu’r perfformiad neu’r gweithgaredd. Mae’r canllawiau atodedig yn esbonio pa reolau sy’n berthnasol i unrhyw berfformiad a phryd i wneud cais am drwydded.
Y prif ffactorau yw a oes taliadau’n cael eu gwneud (gan y gynulleidfa) neu eu derbyn (gan y plentyn); y man lle mae’r perfformiad yn cael ei gynnal; ac a yw’n cael ei ffilmio neu ei recordio ar gyfer y teledu, radio, y rhyngrwyd neu ffilm. Mae’r rhain yn cynnwys:
- unrhyw berfformiad y codir tâl am fynediad iddo neu am reswm arall;
- unrhyw berfformiad mewn mangre sydd wedi’i thrwyddedu i werthu alcohol (hyd yn oed os yw’r bar ar gau yn ystod y perfformiad);
- unrhyw berfformiad a ddarlledir yn fyw (gan gynnwys ar y teledu, y radio a ffrydio ar y rhyngrwyd);
- unrhyw berfformiad a gaiff ei recordio i’w ddefnyddio mewn darllediad neu ffilm a fydd yn cael ei weld gan y cyhoedd (gan gynnwys recordiad sain a osodir ar wefan neu berfformiad a gaiff ei recordio i’w ddangos mewn sinema neu fel rhan o ffilm);
- unrhyw weithgaredd lle mae plant yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu waith modelu y rhoddir taliad, heblaw treuliau, amdano (ni waeth pwy sy’n cael y taliad).
Mae rhai perfformiadau wedi’u heithrio o’r angen i fod â thrwydded. Mae Atodiad A a B sy’n atodedig yn rhoi gwybodaeth ynghylch a oes angen trwydded, ond dylech ofyn am gyngor gan yr Awdurdod Lleol os ydych yn ansicr.
Ni fyddwn yn rhoi trwydded ond pan fyddwn wedi’n bodloni bod trefniadau i oruchwylio a gwarchod y plentyn yn ddigonol, ac y bydd cyn lleied o darfu ag sy’n bosibl ar addysg y plentyn.
Rhaid i geisiadau wedi’u cwblhau ddod i law o fewn 5 diwrnod gwaith i’r digwyddiad ond fe’ch cynghorwn i roi cymaint o rybudd ag sy’n bosibl er mwyn osgoi cael eich siomi yn enwedig ar gyfer digwyddiadau mawr, oherwydd mae’n bosibl y bydd gennym ddyddiad cau gwahanol i’r wybodaeth ddod i law.
Ffurflenni a chanllawiau
Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel – Canllawiau i gyd-fynd â rheoliadau 2015 ar berfformiadau plant (PDF)
Polisi Amddiffyn Plant Cymru (PDF 119kb)
Atodiad A a B (PDF 11kb)
Ffurflen gais (PDF 100kb)
Ffurflen datganiad penaethiaid (PDF 100kb)
Canllaw person ifanc i weithgareddau perfformio plant (PDF)