Chwilio am safle busnes? 

Mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili gymuned fusnes ddynamig ac amrywiol yng nghalon De Cymru a gall gynnig amrywiaeth eang o safleoedd masnachol i fusnesau. 

Gallwch ddod o hyd i bob math o lety yn ein safleoedd busnes ac yng nghanol ein trefi gan gynnwys swyddfeydd o ansawdd uchel, cyfleusterau manwerthu, safleoedd datblygu ac unedau diwydiannol o bob maint.

Os ydych chi'n chwilio am eiddo efallai y gallwn eich helpu i ddod o hyd i eiddo addas yn yr ardal. Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01443 866222 neu e-bost eiddobusnes@caerffili.gov.uk.

Mae hefyd amrywiaeth o dir ac adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor ar gael i'w prynu neu eu gosod.

Ewch i’r dudalen Argaeledd Eiddo am fanylion.
Ewch i wefan y Gofrestrfa Tir i gael rhagor o wybodaeth am brisiau eiddo yn y fwrdeistref sirol. Mae angen cod post yr ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi ar gyfer y wefan hon. I ddod o hyd i’r cod post sydd ei angen arnoch ewch i wefan Postcode Finder y Post Brenhinol.

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Cynllunio ar gyfer busnesau