Hyfforddiant hylendid bwyd
Mae’n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd yn ôl y gyfraith, sicrhau bod y rheiny sy’n trin bwyd yn cael eu goruchwylio’n briodol ac yn cael cyfarwyddyd/hyfforddiant mewn hylendid bwyd yn unol â'u gweithgareddau gwaith a ddylai eu galluogi i drin bwyd yn ddiogel.
Mae cyrsiau hylendid bwyd ar gael fel a ganlyn:
- Dyfarniad Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd (cyfwerth â’r hen ddyfarniad ‘Lefel sylfaen mewn hylendid bwyd’ y SSIA)
- Dyfarniad Lefel 3 mewn Diogelwch Bwyd (Lefel Ganolradd)
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Diogelwch Bwyd (lefel bellach)
Fel canllaw, dylai’r rheiny sy’n trin bwyd sy’n paratoi bwydydd risg uchel, agored, gael hyfforddiant ffurfiol sydd gyfwerth â dyfarniad lefel 2. Mae’r rhain yn gyrsiau ardystiedig a bydd yr ymgeisydd yn sefyll arholiad. Un diwrnod yw hyd y cwrs fel arfer.
Mae’r cwrs wedi’i ddylunio’n benodol i’r rheiny sy’n trin bwyd ac sy’n cael eu cyflogi mewn mannau cynhyrchu, cyfanwerthu, dosbarthu, arlwyo a manwerthu. Bydd yr hyfforddiant hefyd o fudd i reolwyr, goruchwylwyr a pherchnogion busnesau bwyd.
Mae’n arfer da i fusnes gadw cofnodion o hyfforddiant a gwblheir gan bob aelod o staff, i ddangos lefelau gallu unigol.
Darparwyr hyfforddiant
Mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (SSIA) wedi cynhyrchu adnodd canfod cyrsiau i’ch helpu i ddod o hyd i ganolfannau hyfforddi sy'n cynnal cyrsiau hylendid bwyd.
Cynigir cyrsiau hefyd gan y Gymdeithas Frenhinol Iechyd Cyhoeddus.