Casgliadau a gollwyd
Os oes gennych gontract gyda ni i gasglu eich gwastraff masnachol ac nid yw'n cael ei gasglu ar y diwrnod a drefnwyd, rhowch wybod i ni.
Fodd bynnag, cyn cysylltu â ni, gofynnir i chi gyfeirio at y rhestr ganlynol, sy'n darparu rhesymau posibl pam nad yw'ch gwastraff wedi cael eu casglu.
- Nid oedd y bin / sachau wedi'u gosod yn y man casglu erbyn 6am ar y diwrnod casglu
- Roedd y bin / sachau yn cynnwys deunyddiau a restrir ar gefn eich ffurflen ddyletswydd gofal, er enghraifft, pren a gwastraff hylif.
- Roedd y bin / sachau yn anarferol o drwm
- Nid oedd y caead ar eich bin ar gau
- Roedd gwastraff ychwanegol wedi'i osod i'w gasglu nad oedd mewn sachau oren
Rhowch wybod am gasgliad a gollwyd >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Fel arall, gallwch gysylltu â Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.