FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Nid yw rhai o'n ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.

ONLINE FORMS: Some of our online forms are currently unavailable whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Gwastraff masnachol peryglus

Rhaid i bob busnes ddangos bod gwastraff peryglus yn cael ei waredu'n gywir drwy sicrhau bod mesurau yn eu lle i wahanu, trin a storio gwastraff o'r fath yn gywir. Mae'n anghyfreithlon i gymysgu gwahanol fathau o ddeunyddiau gwastraff peryglus neu eu cymysgu / eu gwasgaru â gwastraff nad yw'n beryglus (cyffredinol) sy'n mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae'r Ddyletswydd Gofal yn cael ei gosod yn drymach ar fusnesau, fel cynhyrchwyr gwastraff. Os yw eich busnes yn cynhyrchu gwastraff peryglus, bydd angen i chi gofrestru pob un o safleoedd gweithredol eich busnes gydag Asiantaeth yr Amgylchedd.

Os nad ydych wedi cofrestru, ni fydd yn bosib i wastraff peryglus gael ei gasglu oddi wrth eich safle. 

Mae gwastraffau peryglus yn cynnwys:

  • Asbestos - mae gwasanaeth casglu y codir tâl amdano ar gael
  • Hidlyddion Olew
  • Gwrthrewydd
  • Hylif Brêc
  • Olew Iro
  • Tanwyddau Cymysg
  • Batris Asid Plwm
  • Hylifau Golchi Darnau
  • Clytiau a Gronynnau Halogedig
  • Tiwbiau Fflworoleuol
  • Gwastraff argraffu
  • Paent
  • Gweddillion Olew
  • Gwastraff Toddyddion, gan gynnwys pecynnu a chynwysyddion halogedig
  • Rhai Nwyddau Trydanol
  • Sgriniau Tiwb Pelydr Catod (setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron)
  • Deunyddiau gwastraff eraill a draddodir yn flaenorol fel 'Gwastraff Arbennig'

Rhaid i chi sicrhau bod y cwmni yr ydych yn dewis i waredu eich gwastraff peryglus wedi'i ei drwyddedu'n briodol (gydag Asiantaeth yr Amgylchedd). Mae'n drosedd i drosglwyddo gwastraff i gwmni sydd heb ei gymeradwyo'n llawn gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Os ydych yn meddwl bod gennych wastraff peryglus, ond nad ydych yn sicr, cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd am gyngor.

Gwastraff masnachol - asbestos

Rydym yn cynnig gwasanaeth casglu y codir tâl amdano ar gyfer gwastraff asbestos o eiddo masnachol o fewn y fwrdeistref sirol.

I drefnu i'ch gwastraff asbestos gael ei gasglu, cysylltwch â Strategaeth a Gweithrediadau Gwastraff.

Mae'r ffioedd fel a ganlyn:

  • £35 fesul eitem wedi’i lapio (2 ddalen fel arfer)
  • £25 yr awr ar gyfer unrhyw waith arall

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys y casgliad, gan gynnwys selio'r dalennau, a chludiant i sgip storio dros dro wedi'i selio cyn ei waredu mewn swmp ar Safle Tirlenwi Gwastraff Peryglus trwyddedig.

NODWCH: Mewn rhai achosion, ni fyddwn yn gallu darparu gwasanaeth casglu i fusnesau lle mae maint y gwastraff i'w gasglu yn rhy fawr i ni reoli. Yn yr achosion hyn, bydd busnesau yn cael eu hail-gyfeirio i gontractwr trydydd parti. I gael rhestr o gontractwyr, gallwch gyfeirio at y llyfr ffôn.

Mae angen taliad cyn y gall y gwastraff gael ei gasglu. Gallwch wneud hyn yn unrhyw un o'n swyddfeydd arian.

Am gyngor ynglŷn â thrin gwastraff asbestos, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Asbestos HSE ar 0845 3450055 neu Linell Gymorth Asiantaeth yr Amgylchedd ar 08708 506506.

Os yw busnesau yn methu i waredu gwastraff asbestos yn gyfrifol, bydd y llysoedd yn rhoi dirwyon sylweddol.

Cysylltwch â ni