FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

Ffurflenni Ar-lein: Ni fydd ein ffurflenni ar-lein ar gael ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr a dydd Sul 3 Rhagfyr, wrth i ni gynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Online Forms: Our online forms will be unavailable Saturday 2 December and Sunday 3 December, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Pwy sy’n gyfrifol am dalu’r bil ardrethi busnes?

Mae ardrethi busnes fel arfer yn daladwy gan y person, y bartneriaeth neu’r cwmni sy’n meddiannu’r safle.

Talu eich ardrethi busnes i’ch landlord

Fel y meddiannydd, os byddwch yn gwneud cytundeb preifat gyda’ch landlord i dalu eich ardrethi busnes iddo, a bod y landlord yn methu â’n talu, byddwch yn atebol o hyd am dalu ardrethi busnes. Anfonir biliau a llythyrau adennill yn eich enw chi, nid enw’r landlord.

Safle â chyfrifoldeb ar y cyd

Os ydych yn meddiannu’r safle ar y cyd, bydd pob person a enwir ar y bil yn atebol am dalu’r cyfanswm sy’n ddyledus, nid dim ond cyfran o gyfanswm y bil. Mewn geiriau eraill, gallwn adennill yr ardrethi busnes gan unrhyw un o’r unigolion a enwir ar y bil. Ni allwn fod yn rhan o unrhyw drefniadau y gallech fod wedi’u gwneud â’r unigolion eraill sy’n atebol am dalu’r bil.

Cysylltwch â ni