Pwy sy’n gyfrifol am dalu’r bil ardrethi busnes?
Mae ardrethi busnes fel arfer yn daladwy gan y person, y bartneriaeth neu’r cwmni sy’n meddiannu’r safle.
Talu eich ardrethi busnes i’ch landlord
Fel y meddiannydd, os byddwch yn gwneud cytundeb preifat gyda’ch landlord i dalu eich ardrethi busnes iddo, a bod y landlord yn methu â’n talu, byddwch yn atebol o hyd am dalu ardrethi busnes. Anfonir biliau a llythyrau adennill yn eich enw chi, nid enw’r landlord.
Safle â chyfrifoldeb ar y cyd
Os ydych yn meddiannu’r safle ar y cyd, bydd pob person a enwir ar y bil yn atebol am dalu’r cyfanswm sy’n ddyledus, nid dim ond cyfran o gyfanswm y bil. Mewn geiriau eraill, gallwn adennill yr ardrethi busnes gan unrhyw un o’r unigolion a enwir ar y bil. Ni allwn fod yn rhan o unrhyw drefniadau y gallech fod wedi’u gwneud â’r unigolion eraill sy’n atebol am dalu’r bil.