Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau 

Er mwyn i ni sicrhau ein bod yn eich bilio ar gyfer y swm cywir o ardrethi busnes, mae angen i chi roi gwybod i ni:

  • os byddwch yn symud i mewn i safle busnes ym mwrdeistref sirol Caerffili

  • os byddwch yn symud allan o safle busnes ym mwrdeistref sirol Caerffili

  • unrhyw newid arall mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich atebolrwydd i dalu ardrethi busnesCwblhewch y ffurflen ar-lein er mwyn rhoi gwybod i ni am y newidiadau hyn.

Rhowch wybod i ni os ydych yn gadael neu'n meddiannu safle busnes >

Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari

Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili.  Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau.  Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym! 

Fel arall, gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod, ei chwblhau a'i dychwelyd drwy’r post gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Lawrlwytho’r ffurflen gadael/meddiannu safle busnes ardrethi busnes (PDF 72kb)

Os byddai’n well gennych, cysylltwch â ni drwy e-bost i roi gwybod i ni am y newidiadau.  Edrychwch ar y ffurflen ar y ddolen ar y dudalen hon i weld pa wybodaeth sydd ei hangen arnom.