Estyn y cyfnod meddiannu lleiaf o 1 Ebrill 2022

Nid yw perchnogion na lesddeiliaid eiddo annomestig gwag yn gorfod talu ardrethi am y tri mis cyntaf ar ôl i eiddo ddod yn wag (y cyfnod rhyddhad cychwynnol). Nod y cyfnod rhyddhad cychwynnol yw rhoi cyfnod o seibiant rhag talu ardrethi wrth chwilio am feddiannydd neu ddefnydd newydd ar gyfer yr eiddo. Ar ddiwedd y cyfod hwn, mae'n rhaid i'r perchennog neu'r lesddeiliad dalu'r ardrethi llawn am gyfnod amhenodol. Nod hyn yw annog perchnogion a lesddeiliad i beidio â chadw eiddo'n wag am resymau hapfasnachol. Mae'r cyfnod rhyddhad cychwynnol i eiddo diwydiannol yn chwe mis am fod eiddo diwydiannol yn anos eu prydlesu at ei gilydd a gall gymryd mwy o amser i'w haddasu at ddiben gwahanol.

Fodd bynnag, hyd at 31 Mawrth 2022, a gan gynnwys y dyddiad hwnnw, os bydd yr eiddo wedi'i feddiannu dros dro am gyfnod o chwe wythnos neu fwy, a bod y perchennog neu'r lesddeiliad yn gorfod talu ardrethi llawn am y cyfnod hwn (y rheol chwe-wythnos), mae hyn yn ailosod trefniadau'r cylch rhyddhad ardrethi. Yna, mae'r perchennog neu'r lesddeiliad yn gymwys i gael cylch arall o ryddhad ardrethi am dri neu chwe mis os bydd yr eiddo'n dod yn wag eto. Nid oes unrhyw derfyn ar nifer yr achlysuron y gall y perchennog neu'r lesddeiliad hawlio cylchoedd rhyddhad ardrethi yn y dyfodol, cyhyd â bod y meini prawf meddiannaeth yn cael eu bodloni.

O 1 Ebrill 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau newydd [Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Cymru) (Diwygio) 2021] sy'n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion neu lesddeiliaid eiddo brofi bod yr eiddo wedi'i feddiannu am 26 wythnos neu fwy (yn hytrach na chwe wythnos) a bod angen i'r meddiannydd dalu o leiaf 26 wythnos o ardrethi llawn cyn i'r perchennog neu'r lesddeiliad ddod yn gymwys am gyfnod pellach o dri neu chwe mis o ryddhad.