Elusennau a sefydliadau dielw

Os ydych yn meddiannu eiddo, a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf at ddibenion elusennol, a’ch bod yn elusen gofrestredig neu’n glwb chwaraeon amatur cymunedol (CASC), byddwch yn gallu gwneud cais am 80% o ryddhad ardrethi gorfodol.

Gallwch wneud cais am ryddhad o hyd at 100% yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol os byddwch yn meddiannu eiddo a’ch bod yn gorff dielw sy’n defnyddio’r eiddo at ddibenion:

  • elusennol
  • dyngarol
  • crefyddol
  • addysgol
  • yn ymwneud â lles cymdeithasol
  • gwyddonol
  • llenyddol
  • yn ymwneud â’r celfyddydau cain
  • yn ymwneud â hamdden gan glwb neu gymdeithas ddielw 

Bydd elusennau, CASCau a sefydliadau eraill sy’n gymwys i gael 80% o’r rhyddhad gorfodol yn gallu gwneud cais am ryddhad dewisol hyd at yr 20% sy’n weddill o’r ardrethi sy’n daladwy.

Nid oes gan eiddo heb ei feddiannau sydd o dan berchenogaeth elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol unrhyw ardrethi i’w talu ac felly nid yw rhyddhad ardrethi gorfodol yn gymwys.

Gall sefydliadau chwaraeon sydd wedi cofrestru fel CASCau â Chyllid a Thollau EM at ddibenion Atodlen 18 o Ddeddf Cyllid 2002 hawlio 80% o’r rhyddhad gorfodol. Cyn i chi allu gwneud cais am ryddhad, mae angen i chi gofrestru â Chyllid a Thollau EM. I gael manylion am sut i gofrestru, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM (CThEM). Unwaith y byddwch wedi cofrestru, cwblhewch y Cais am ryddhad ardrethi – clybiau chwaraeon amatur cymunedol a’i dychwelyd i’r Tîm Ardrethi Busnes.

 Gwahoddir unrhyw elusen, CASC neu sefydliad arall y dyfernir rhyddhad ardrethi dewisol iddynt i wneud cais arall o bryd i’w gilydd a chaiff eu cais ei ailystyried, ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth ategol ddiweddar sydd ei hangen. Yn dilyn adolygiad, neu newid yn ein polisi rhyddhad ardrethi dewisol, gall eich rhyddhad barhau ar yr un gyfradd, codi, gostwng neu gael ei ddileu’n llwyr.

Sut i wneud cais

Os ydych chi’n elusen, sefydliad dielw neu glwb chwaraeon amatur cymunedol a’ch bod o’r farn eich bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais.

Rhyddhad ardrethi elusennau a sefydliadau dielw – ffurflen gais (PDF 91kb)

Rhyddhad ardrethi clybiau chwaraeon amatur cymunedol – ffurflen gais (PDF 89kb)

Rhagor o wybodaeth

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am ryddhad ardrethi busnes, cysylltwch â ni.