Rating advisors
Fel trethdalwr, nid oes rhaid i chi gael cynrychiolaeth broffesiynol wrth drafod gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ynghylch gwerth ardrethol neu ynghylch bil ardrethu gyda'r cyngor; gallwch wneud hyn eich hun. Mae apeliadau yn erbyn gwerthoedd ardrethol yn rhad ac am ddim.
Mae eich eiddo yn derbyn gwerth ardrethol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio byddwn wedyn yn ei defnyddio i gyfrifo faint o drethi busnes y dylech ei dalu.
Gallwch holi ynghylch eich gwerth ardrethol drwy gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Does dîm tâl am hyn. Rhif Ffôn (Cymru): 03000 505 505.
Os byddai’n well gennych, gallwch gael help gan syrfëwr ardrethu cymwys drwy un o'r sefydliadau canlynol:-
Mae aelodau o’r sefydliadau uchod wedi cymhwyso a'u rheoleiddio gan reolau ymddygiad proffesiynol wedi'u cynllunio i amddiffyn y cyhoedd rhag camymddwyn.
Nid yw'r cyngor mewn sefyllfa i wneud unrhyw argymhelliad neu hyd yn oed roi cyngor ar y manteision neu fel arall o ddefnyddio ymgynghorwyr ardrethu, fodd bynnag, dylech sicrhau bod y sefydliad neu'r person yr ydych yn gofyn i'ch helpu chi wedi'i gofrestru gydag un o'r sefydliadau a restrir uchod.
Efallai y byddwch yn gorfod talu am unrhyw gyngor a gewch gan syrfëwr ardrethu o'r cychwyn cyntaf.
Gallwch ffonio llinell ymholiadau’r Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar 0870 333 1600 am gyngor. Mae’r 30 munud cyntaf o gyngor am ddim ond efallai y codir rhai costau galwadau gan eich darparwr gwasanaeth ffôn wrth wneud yr alwad ffôn.
Dewch o hyd i wybodaeth ar gostau galwadau ar wefan GOV.UK.