Gwerthoedd ardrethol
Rhoddir gwerth ardrethol i’ch safle gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Rydym yn defnyddio’r gwerth hwn i gyfrifo faint o ardrethi busnes y dylech ei dalu.
Cedwir manylion am bob safle, gan gynnwys disgrifiad cryno a’r gwerth ardrethol, ar restr ardrethu lleol. Os bydd eiddo yn rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae’r gwerth ardrethol ond yn ymwneud â’r rhan annomestig gan y bydd treth gyngor yn daladwy ar y rhan ddomestig.
Adolygir gwerthoedd ardrethol bob pum mlynedd – gelwir hyn yn ailbrisio. Bydd ailbrisiad newydd yn dod i rym o 1 Ebrill 2023 yn seiliedig ar renti’r farchnad ar 1 Ebrill 2021.
Dangosir manylion am werth ardrethol eich safle, a sut mae wedi’i gyfrifo, ar brisiad cryno'r eiddo. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys gwerth ardrethol presennol eiddo yng Nghymru a Lloegr a'r prisiad cryno ar wefan y Swyddfa Brisio.
Mae copi o’r rhestr ardrethu lleol ar gael:
Lluosydd
Mae'r gwerth ardrethol yn cael ei luosi gan ffigwr sy’n cael ei bennu'n flynyddol gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn y lluosydd) i gyfrifo'r ardrethi sy'n daladwy.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2023, mae’r lluosydd wedi’i osod ar 53.5 ceiniog. Os yw gwerth ardrethol eich eiddo yn £20,000, byddem yn ei luosi gan 53.5c i gael cyfanswm o gyfraddau gros sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn o £10,700.
Os oes hawl gennych i unrhyw fath o ryddhad neu eithriad ardrethi, bydd y swm hwn yn cael ei ostwng wedyn unol â hynny.
Mae'r lluosydd fel arfer yn newid bob blwyddyn yn unol â chwyddiant (Mynegai Prisiau Defnyddwyr) ac eithrio yn y flwyddyn gyntaf yn dilyn ailbrisio pan gaiff ei ddefnyddio i sicrhau bod y newidiadau cyffredinol mewn gwerthoedd ardrethol yn cael effaith niwtral o ran refeniw (h.y. mae'r cyfanswm o gyfraddau busnes a godir yn aros yr un fath). Gall Llywodraeth Cymru hefyd wneud rheoliadau i bennu swm amgen sydd yn is na'r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi y flwyddyn ariannol flaenorol.
Beth i’w wneud os ydych chi’n credu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir
Os ydych yn anghytuno â gwerth ardrethol eich eiddo, gallwch apelio i Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn amodol ar gyfyngiadau amser penodol, am un o’r rhesymau canlynol:
- Mae’r gwerth ardrethol cychwynnol yn y rhestr ardrethu yn anghywir, yn eich barn chi.
- Mae’r gwerth ardrethol yn anghywir yn sgil newid materol yn yr eiddo. Er enghraifft, mae rhan o’r eiddo wedi’i dymchwel; rydych wedi ehangu’r eiddo, mae newid wedi bod yn ei ddefnydd; newid ffisegol yn yr ardal leol neu newid yn y defnydd a wneir o eiddo cyfagos.
- Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi diwygio’r gwerth ardrethol a nodir ar y rhestr ardrethu lleol a’ch bod o’r farn bod y gwerth newydd yn anghywir.
- Mae gwall yng nghofnod yr eiddo yn y rhestr ardrethu e.e. mae’r disgrifiad yn anghywir.
- Dangosir eich eiddo ar y rhestr ond ni ddylai fod yno e.e. adeilad amaethyddol.
- Rydych o'r farn bod penderfyniad y Tribiwnlys Prisio neu’r Uchel Lys yn cael effaith ar werth ardrethol eich eiddoO dan rai amgylchiadau, cyflwynir eich apêl i’r Tribiwnlys Prisio er ystyriaeth.
Ni allwch atal taliad neu wrthod talu ardrethi busnes gan eich bod yn aros am benderfyniad ar apêl yn erbyn gwerth ardrethol eiddo.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio pob eiddo busnes ar gyfer ardrethi busnes. Mae’r prisiad yn seiliedig ar wybodaeth sydd gan y VOA am eich eiddo. Gallwch weld a diweddaru’r wybodaeth hon yn gov.uk/voa/valuation.
Gallwch gysylltu â’r VOA yn gov.uk/cysylltu-voa. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â’r VOA ar 03000 505 505.