Talu eich bil ardrethi busnes
Mae eich bil ardrethi busnes fel arfer yn daladwy mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill i’r mis Ionawr canlynol. Gallwn gytuno ar drefniadau talu amgen mewn rhai amgylchiadau.
Debyd Uniongyrchol
Y ffordd hawsaf i dalu yw drwy ddebyd uniongyrchol. Gellir trefnu hyn drwy ein ffonio. Ffoniwch 01443 863006 o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am i 4pm. Fel arall, mae ffurflen Debyd Uniongyrchol y gallwch ei hargraffu, ei llenwi a'i dychwelyd atom. Gallwch dalu ar y 5ed, 15fed neu 25ain o bob mis. Bydd angen eich rhif cyfrif banc, cod didoli eich cangen a chyfeiriad eich banc wrth law.
Lawrlwytho ffurflen Debyd Uniongyrchol
Ar-lein
Mae’n rhwydd ac yn ddiogel i dalu ar-lein. Rydym yn derbyn y cardiau canlynol: Maestro UK, Debyd MasterCard, Debyd Visa (Delta, Electron), Credyd Visa a Chredyd MasterCard.
Dros y ffôn
Gellir gwneud taliadau hefyd dros y ffôn drwy ffonio'r Gwasanaeth Taliadau Awtomataidd ar unrhyw adeg.
Yn Bersonol
Sylwch nad yw taliadau adrethi y busnes bellach yn cael eu derbyn yn Swyddfeydd Gwasanaethau I Gwsmeriaid.
Swyddfa bost
Gallwch hefyd dalu yn y swyddfa bost. Cliciwch yma am fanylion ar sut i wneud cais am gerdyn swyddfa bost.
Drwy'r post
Rhaid i daliadau gael eu gwneud drwy siec wedi’i chroesi neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’ (ni dderbynnir sieciau wedi'u hôl-ddyddio). Anfonwch eich taliad ynghyd â’ch cerdyn talu i:
Y Swyddfa Arian, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG.
Nodwch eich rhif cyfrif ardrethi busnes ar gefn eich siec neu'r archeb bost.
Peidiwch ag anfon arian yn y post.
Bancio ar-lein/dros y ffôn
Bydd angen y manylion canlynol arnoch:
Rhif cyfrif ardrethi busnes a nodir ar eich bil
Rhif ein cyfrif banc 83532550
Ein cod didoli 20-10-42 Enw ein cyfrif yw ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili’