Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn talu?
Nodir ein gweithdrefnau adennill isod:
Bil y flwyddyn gyfredol
Os byddwch yn colli rhandaliad, cewch hysbysiad atgoffa yn rhoi saith diwrnod i chi sicrhau bod eich taliadau'n gyfoes.
Os na wnewch y taliad o fewn y terfyn amser, byddwn yn anfon hysbysiad terfynol atoch yn canslo eich hawl i dalu drwy randaliadau ac yn gofyn i chi dalu'r swm sy'n weddill yn llawn.
Bydd yr hysbysiad terfynol yn esbonio, os na fyddwch yn talu’r swm cyfan, y gall arwain at gamau cyfreithiol yn Llys yr Ynadon i gael gorchymyn dyled, gan gynnwys costau cyfreithiol. Ar y cam hwn, os byddwch yn cymryd y cyfle hwn i greu debyd uniongyrchol, efallai y byddwn yn cytuno i gasglu’r balans sy’n weddill drwy ddebyd uniongyrchol, adfer y rhandaliadau misol a ‘thynnu’n ôl’ yr hysbysiad terfynol.
Os nad ydych yn talu’r hysbysiad terfynol neu os nad ydych yn sefydlu debyd uniongyrchol, y ddogfen nesaf a gyhoeddir yw gwŷs i'r Llys Ynadon. Rydym yn paratoi a danfon y gwŷs ar ran y Llys a bydd yn dangos enw llys, dyddiad ac amser y gwrandawiad a’r swm rydym yn ceisio adennill. Hwn fydd y swm sy'n weddill o’r ardrethi busnes yn ogystal â'r costau a godwyd arnom ar gyfer gwneud y cais. Ein costau gwŷs yw £48.00 gyda chostau atebolrwydd gorchymyn o £20.00, gan wneud cyfanswm o £68.00.
Nid oes angen i chi fynychu’r gwrandawiad er mwyn i orchymyn dyled gael ei wneud oherwydd gellir delio â’r achos yn eich absenoldeb.
Os byddwch yn cytuno i dalu’r balans sy’n weddill ond ni allwch dalu’r swm llawn cyn dyddiad y gwrandawiad llys, efallai y bydd yn bosibl cytuno ar drefniant talu arbennig. Bydd unrhyw drefniant arbennig o’r fath yn destun y gorchymyn dyled, gan gynnwys costau, a wneir gennym; fodd bynnag, ni chymerir camau gorfodi o dan y gorchymyn dyled ar yr amod bod y trefniant arbennig yn cael ei gadw.
Oni chaiff yr wŷs ei thalu’n llawn cyn dyddiad y gwrandawiad llys, neu os bydd un o’r ychydig amddiffyniadau cyfreithiol dilys yn berthnasol pan na chaiff taliad ei wneud, cyflwynir y gorchymyn dyled gan yr ynadon, gan gynnwys costau sy’n daladwy i’r cyngor.
Mae gorchymyn dyled ar gyfer ardrethi busnes heb eu talu yn rhoi sawl pŵer i ni orfodi’r taliad. Y dull mwyaf cyffredin a ddefnyddir yw asiantau gorfodi (a alwyd yn feilïaid yn y gorffennol) i gael gwared ar unrhyw nwyddau sy’n berchen i chi a gaiff eu gwerthu mewn arwerthiant i glirio’r ddyled. Yna, codir ffioedd arnoch gan yr asiant gorfodi.
Os na all yr asiant gorfodi ddod o hyd i unrhyw nwyddau neu unrhyw nwyddau digonol i’w gwaredu a’u gwerthu, ar gyfer unig fasnachwyr gallwn wneud cais i Lys yr Ynadon i’w traddodi i’r carchar am hyd at 3 mis. Ni ellir traddodi cwmnïau cyfyngedig i’r carchar ond gallwn wneud cais i Dderbynnydd Swyddogol y cwmni gael ei ddiddymu.
Bil y flwyddyn flaenorol
Os yw’r bil ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol, dim ond un dyddiad talu rhandaliad sydd fel arfer, ac mae’n rhaid i hwn fod o leiaf 14 diwrnod ar ôl cyflwyno’r bil. Os na chawn y taliad llawn ar y dyddiad dyledus neu cyn hynny, byddwn yn cyflwyno nodyn atgoffa yn dangos y swm sy’n ddyledus y mae angen ei dalu o fewn 7 diwrnod.
Bydd yr hysbysiad atgoffa yn esbonio, os na fyddwch yn talu’r swm cyfan, y gall arwain at gamau cyfreithiol yn Llys yr Ynadon i gael gorchymyn dyled, gan gynnwys costau cyfreithiol. Ar y cam hwn, os byddwch yn cymryd y cyfle hwn i drefnu debyd uniongyrchol, efallai y byddwn yn cytuno i gasglu’r balans sy’n weddill drwy ddebyd uniongyrchol, ac yn ‘tynnu’n ôl’ yr hysbysiad terfynol.
Os na fyddwch yn talu'r nodyn atgoffa neu os na fyddwch yn cytuno i drefnu debyd uniongyrchol ar y cam hwn, y ddogfen nesaf i’w chyhoeddi fydd gwŷs Llys yr Ynadon. Mae’r broses o hyn ymlaen yr un peth ar gyfer bil y flwyddyn gyfredol.
Rydym yn fwy na pharod i roi cyngor ar faterion sy’n ymwneud ag ardrethi busnes a, lle y bo’n berthnasol, gall un o’n swyddogion archwilio/ymweld drefnu i ymweld â’r safle.
Ydych chi’n cael anawsterau’n talu eich ardrethi busnes?
Rydym yn ceisio cydbwyso ein dyletswydd i gasglu ardrethi busnes ar ran Llywodraeth Cymru mewn ffordd sympathetig.
O dan amgylchiadau eithriadol, gallwn gytuno ar drefniadau talu arbennig, ar ben y cynllun rhandaliadau statudol, ar gyfer busnesau sy’n ei chael hi’n anodd talu eu hardrethi busnes. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu rhoi cymaint o help â phosibl i chi.