Nodiadau esboniadol cyfraddau busnes 2024 

Trethi Annomestig - Nodiadau Esboniadol 2024/25

(Mae’r Atodiad hwn yn ffurflo rhan o’r Gofyniad Statudol)

Mae’r wybodaeth a roddir isod yn egluro rhai o’r termau y gellir eu defnyddio mewn hysbysiad galw am dalu ardreth annomestig ac yn yr wybodaeth ategol. Gellir cael gwybodaeth bellach ynghylch rhwymedigaeth i dalu ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio.

Ardrethi Annomestig

Mae’r ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio yn cael eu talu i gronfa ganolog a’u hailddosbarthu i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac i gomisiynwyr heddlu a throseddu. Mae eich cyngor a’ch comisiynydd heddlu a throseddu yn defnyddio eu cyfrannau o’r incwm ardrethi a ailddosberthir, ynghyd ag incwm oddi wrth y rhai sy’n talu’r dreth gyngor iddynt, y grant cynnal refeniw a ddarperir gan Weinidogion Cymru a symiau penodol eraill, i dalu am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Gellir cael gwybodaeth bellach am y system ardrethi annomestig, gan gynnwys pa ryddhadau sydd ar gael, drwy fynd i https://busnescymru.llyw.cymru/

Gwerth Ardrethol

Gosodir gwerth ardrethol eiddo annomestig yn y rhan fwyaf o achosion gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n un o Asiantaethau Gweithredol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM). Maent yn llunio ac yn cynnal rhestr lawn o werthoedd ardrethol pob eiddo annomestig yng Nghymru, ac mae ar gael ar eu gwefan yn www.gov.uk/government/organisations/valuation-office-agency. Fel arfer, caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob 5 mlynedd. O 1 Ebrill 2023 mae gwerth ardrethol eiddo yn cynrychioli ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2021.

Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud â’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth ardrethol. Dangosir gwerth pob eiddo y mae ardreth yn daladwy i’ch awdurdod arno yn y rhestr ardrethi lleol, ac mae copi ar gael ar-lein ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ewch i www.caerffili.gov.uk a chwiliwch am ‘setiau data ardrethi Busnes’. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y Valuation Office Agency website.

Ailbrisio

Caiff yr holl werthoedd ardrethol eu hailasesu mewn ailbrisiad cyffredinol er mwyn sicrhau bod yr ardrethi a delir gan unrhyw un trethdalwr yn adlewyrchu newidiadau dros amser yng ngwerth ei eiddo o gymharu ag eraill. Mae hyn yn helpu i gadw’r system ardrethu yn deg drwy ddiweddaru prisiadau yn unol â newidiadau yn y farchnad. Cafodd y rhestr ardrethu bresennol effaith ar 1 Ebrill 2021 ac mae’n seiliedig ar werthoedd fel yr oeddent ar 1 Ebrill 2023. Yn y flwyddyn y mae ailbrisiad yn cael effaith, ailbennir sylfaen y lluosydd er mwyn cymryd i ystyriaeth newidiadau cyffredinol i gyfanswm y gwerth ardrethol ac i sicrhau nad yw’r ailbrisiad yn codi arian ychwanegol.

Newid yn y Gwerth Ardrethol

Gall y gwerth ardrethol newid os yw’r swyddog prisio yn credu bod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Caiff y trethdalwr (ac eraill penodol sydd â buddiant yn yr eiddo), o dan amodau penodol, hefyd gynnig newid yn y gwerth. Gallwch gysylltu â’r Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gov.uk/cysylltu-voa. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu â’r VOA ar 03000 505 505.

Y Lluosydd Ardrethu Annomestig

Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol â hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan Weinidogion Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan.

Cynigion ac Apelau

Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol oddi tanynt ac am sut y gellir gwneud cynnig o’r fath ar gael gan y swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau apelio ar gael gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili neu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ei gwefan  https://www.gov.uk/government/organisations/valuation-office-agency.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn darparu gwasanaeth apelau annibynnol rhad ac am ddim sy’n ymdrin ag apelau ynghylch Ardrethi Annomestig a’r Dreth Gyngor. Gellir gweld eu manylion cyswllt yma http://www.valuation-tribunals-wales.org.uk/

Ardrethu Eiddo heb ei Feddiannu

Gall perchnogion eiddo annomestig sydd heb eu meddiannu fod yn agored i dalu ardrethi eiddo gwag a godir yn ôl 100% o’r rhwymedigaeth arferol. Mae’r rhwymedigaeth yn dechrau ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 3 mis neu, yn achos eiddo diwydiannol penodol, ar ôl i’r eiddo fod yn wag am 6 mis. Mae mathau penodol o eiddo wedi eu heithrio rhag ardrethi eiddo gwag.

Rhyddhad Elusennol ac yn ôl Disgresiwn

Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% rhag ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig - (a) yn achos elusennau, pan ddefnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol; neu (b) yn achos clwb, pan fo’r clwb wedi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM. Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20% sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a gallant hefyd roi rhyddhad mewn cysylltiad ag eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi eu sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw. Am fwy o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM, Tþ William Morgan, 6 Sgwâr Canolog, Caerdydd CF10 5EP,( y wefan yw http://www.hmrc.gov.uk).

Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach

Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad ardrethi I fusnesau bach. Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar gael gan yr awdurdod bilio.

Rhyddhad Ardrethi Trosiannol

Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad trosiannol i fusnesau y mae’r ailbrisio hereditamentau annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2023 yn cael effaith andwyol arnynt. Mae manylion llawn gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhadau ardrethi perthnasol ar gael gan yr awdurdod bilio. Ar gyfer eiddo cymwys, dim ond yn achos rhwymedigaeth ardreth annomestig sy'n dod o fewn y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 y bydd rhyddhad ardrethi trosiannol yn berthnasol.

Diogelu Data – Crynodeb o'r Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Bydd yn cael ei defnyddio gan weithwyr awdurdodedig a chyrff allanol ar gyfer y dibenion canlynol: 

Rheoli, gweinyddu a chasglu Ardreth Annomestig Genedlaethol; sefydlu cymhwyster ar gyfer ffurfiau eraill o ryddhad a lwfansau statudol; atal a chanfod twyll er mwyn casglu refeniw a diogelu arian cyhoeddus; at ddibenion Etholiadol; i ddod o hyd i unigolion ar gyfer achosion o ddiogelu plant neu achosion o oedolion bregus; a chynorthwyo'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Os ydych yn cael rhyddhad ardrethi mewn perthynas â'ch atebolrwydd ardrethi, bydd peth o'r wybodaeth hon yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru (LlC) fel y gall LlC gwblhau ei dyletswydd gyhoeddus. Mae gennych nifer o hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth, gan gynnwys yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sydd gennym amdanoch chi a'r hawl i gwyno os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.

Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Caerffili - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (caerphilly.gov.uk)

Cyswllt

E-bost: nndr@caerphilly.gov.uk Rhif ffôn: 01443 863006