Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Caerffili

Mae ceisiadau ar gyfer Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Caerffili wedi'u hatal am y tro oherwydd cyfyngiadau ariannu.

Gweledigaeth Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Caerffili yw creu canolfan lewyrchus ac o'r radd flaenaf ar gyfer uwch-dechnoleg a fydd yn cynnwys cwmnïau gweithgynhyrchu Cymreig o bob maint sy'n cynrychioli sawl is-sector allweddol, gan gynnwys bwyd, a chreu swyddi sy'n heriol, sy'n rhoi boddhad ac sy'n uchel eu bri.

Bydd Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes Caerffili yn annog BBaCh sy'n cyflogi mwy na 10 o bobl i wneud y canlynol:

  • Diogelu eich busnes at y dyfodol drwy fod yn fwy effeithlon,
  • Cyflwyno technoleg newydd,
  • Amrywio eich cwsmeriaid,
  • Datblygu cynhyrchion newydd.

Yn dilyn archwiliad diagnostig AM DDIM o gynhyrchiant eich cwmni, bydd pecyn cymorth cynhwysfawr yn cael ei gynnig. Bydd y pecyn cymorth yn amrywio o gymorth gweithredu ymarferol, datblygu sgiliau, ymchwil a datblygu, allforio, CYMORTH GRANTIAU ar gyfer gwariant cyfalaf ac unrhyw ymyriadau arbenigol eraill sydd eu hangen.

Mae Cyngor Caerffili, ynghyd â Llywodraeth Cymru, yn falch o fod yn cynnal sesiwn ragarweiniol ar raglen y Cymoedd Technoleg ar 20 Hydref am 10am–11am ac eisiauw eich gwahodd chi i ymuno â chyfarfod ar Microsoft Teams. Dyluniwyd y rhaglen ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu bach a chanolig gyda mwy na 10 o weithwyr.

Os hoffech chi gael gwybod sut y gallai eich busnes chi fanteisio ar y cymorth sydd ar gael gan y Cymoedd Technoleg, cadwch eich lle chi drwy e-bostio Busnes@caerffili.gov.uk

Astudiaeth Achos: Caledan Ltd

Astudiaeth Achos: Lexon Group