Cysylltia2
Mae Connect2 yn wasanaeth rydym yn ei ddarparu i ategu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes.
Rydym yn gweithredu pum gwasanaeth bws lleol, llwybrau 15, C1, J, L, M. Gweler ein hadran amserlenni am fanylion.
Rydym hefyd yn gweithredu bysus siopa wythnosol yn ardaloedd Caerffili, Bargod a Bedwas. Os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hyn, cysylltwch â ni ar 01443 873763 neu e-bostiwch cysylltia2@caerffili.gov.uk i weld a oes gwasanaeth yn agos atoch chi.
Mae Connect2 yn derbyn pasys bws dilys o Gymru yn y rhan fwyaf o’r gwasanaethau.
Mae ein bysus mini hefyd ar gael am deithiau preifat y tu allan i’n horiau gwasanaethau a drefnir.
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni ar 01443 873763 neu e-bostiwch cysylltia2@caerffili.gov.uk am fanylion.