Cerdyn Teithio Rhatach
Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu os oes gennych chi anabledd, efallai eich bod chi'n gymwys i gael Cerdyn Teithio Rhatach am ddim gan Trafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n gallu teithio am ddim ar wasanaethau bysiau lleol a rhai gwasanaethau trenau ledled Cymru.
Pwy sy'n gallu gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach?
Gallwch chi wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach os:
- dych chi'n 60 oed neu'n hŷn
- oes gennych chi anabledd corfforol neu ddysgu
- ydych chi'n byw yng Nghymru
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais i Trafnidiaeth Cymru am Gerdyn Teithio Rhatach trwy fynd i www.trc.cymru/cerdynteithio.
Ar y wefan, gellir dod o hyd i wybodaeth am:
Faint mae'n ei gostio?
Mae eich Cerdyn Teithio Rhatach Trafnidiaeth Cymru cyntaf am ddim.
Os byddwch chi'n colli eich Cerdyn Teithio Rhatach, neu os bydd yn cael ei ddwyn neu ei ddifrodi, gallwch chi gael un newydd trwy wneud cais i Trafnidiaeth Cymru. Codir tal o £10.00 ar gyfer Cerdyn Teithio Rhatach newydd.
Os ydy'ch Cerdyn Teithio Rhatach wedi'i ddifrodi, efallai na fydd yn cael ei dderbyn ar y bws neu'r trên.
Cerdyn Cydymaith
Os oes angen help arnoch chi wrth deithio, efallai eich bod chi'n gymwys i gael cerdyn cydymaith sy'n darparu teithio am ddim ar gyfer un person sy'n dod gyda chi ar gyfer eich taith gyfan. Gwneir ceisiadau am gerdyn cydymaith i ni yn uniongyrchol, nid trwy Trafnidiaeth Cymru.
Gallwch gael cerdyn cydymaith os oes gennych chi:
- Ymddygiad heriol ac angen eich goruchwylio drwy'r adeg.
- Namau meddwl a gwybyddol difrifol (gan gynnwys pobl nad oes ganddynt ymwybyddiaeth o risg a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith).
- Cyfuniad o golli golwg a chlyw neu olwg a lleferydd sy'n eich atal rhag symud yn annibynnol; neu
- Anawsterau wrth ddefnyddio cadeiriau olwyn yn annibynnol.
I wneud cais am gerdyn cydymaith, llenwch y ffurflen isod:
Ffurflen Hunan-asesiad Cymhwysedd Person Cydymaith (PDF)