FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Dyletswyddau Adrodd 2022 - 2023

Yn unol â'r dyletswyddau o dan adrannau 7 (3) a 10 (2) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, dyma adroddiad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn 2022-23.

Y camau a gymerwyd i hybu siwrneiau teithio llesol

  • Cwblhau 7 astudiaeth WelTAG byr i ddatblygu dyluniadau cysyniad ar gyfer yr ardaloedd hynny ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol ym Margod a Chefn Fforest, tref Caerffili a de-orllewin Caerffili, Nelson, Wattsville – Crosskeys – Rhisga, canol tref Ystrad Mynach, gorsaf drenau Ystrad Mynach i'r coleg ac Ystrad Mynach – Llanbradach – Caerffili. Roedd pob astudiaeth yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Y camau a gymerwyd i sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau a gwelliannau cysylltiedig

  •  A469 Ffordd Gyswllt Pontlotyn, y Drenewydd, croesfan i gerddwyr heb ei rheoli.
  • Croesfannau i gerddwyr â phalmant botymog, Graig-y-rhaca a Wattsville/Cwmfelin-fach.
  • Pottery Road, Cefn Hengoed – rhwystrau mynediad.

Costau a ysgwyddir ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a gynhaliwyd yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol

  •  £115k

Yn ogystal â'r uchod, mae'r wybodaeth a ganlyn yn rhoi trosolwg o'r seilwaith sydd wedi cael ei weithredu yn ystod y flwyddyn flaenorol: 

Gwariant dangosol ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig sy'n cael eu cyllido neu eu cyllido'n rhannol gan drydydd partïon.

  • Datblygu'r rhwydwaith a chynlluniau: £670k
  • Datblygu strategaethau rhwydwaith ar gyfer gwella hygyrchedd, cod ymddygiad a hyrwyddo'r rhwydwaith: £26k - Mân waith (fel uchod): £115k

Hyd llwybrau newydd (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)

  • Dim

Hyd y llwybrau wedi eu gwella (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)

  • Dim

Cyfleusterau teithio llesol newydd a gwell 

  • Gwelliannau i gerddwyr a diogelu mynediad mewn tri man

Copïau caled ar gael ar gais, yn unol â Chanllawiau statudol y Ddeddf Teithio Llesol (argraffiad 2021)