Cartrefi nyrsio
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw'r rheoleiddwyr ar gyfer gofal cymdeithasol a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac mae’n anelu at ddarparu sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd ac argaeledd Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae cyfeirlyfr o wasanaethau gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru gyda AGC ar gael ar wefan AGC.
Mae'r sefydliadau a restrir isod ar restr darparwyr cofrestredig Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer darparu gwasanaethau gofal nyrsio.
Mae'r rhestr hon at ddibenion gwybodaeth yn unig ac mae'n cynnwys gwybodaeth a oedd yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae'n nodi darparwyr cofrestredig a leolir o fewn ffiniau Caerffili yn unig. Mae manylion y darparwyr cofrestredig y tu allan i'r sir ar gael drwy gysylltu y Tîm Comisiynu ar 01433 864777neu anfonwch ebost at comteam@caerphilly.gov.uk.
Nid yw bod ar y rhestr hon yn golygu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cymeradwyo’r sefydliad neu’n gwarantu ansawdd ei wasanaeth i gwsmeriaid cyffredinol. At hyn, ni ellir dal y cyngor yn atebol am unrhyw benderfyniad a wnewch ar sail y wybodaeth a roddir ar y rhestr hon.
Mae'r adroddiadau arolygu diweddaraf yn cael eu darparu lle maent ar gael a gellir eu gweld drwy ddilyn y dolenni o dan fanylion y darparwr.
- Mae Adroddiadau Monitro yn ymwneud ag ymweliadau rheolaidd a gynhaliwyd gan yr Is-adran Monitro Contractau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Mae rhestr termau ar gael er gwybodaeth i chi.
- Mae adroddiadau Perfformiad Darparwyr yn ymwneud â’r ymweliadau hynny a gynhelir y tu allan i fonitro rheolaidd.
- Mae ymweliadau Perfformiad Darparwyr yn cael eu cynnal lle mae pryderon cynyddol am ddarparwr ac felly mae angen mwy o fonitro rheolaidd.
Good Care Guide
Os ydych am fwy o wybodaeth ar yr holl gartrefi gofal nyrsio yn y fwrdeistref, efallai yr hoffech edrych ar wefan Good Care Guide. Fforwm annibynnol yw’r Good Care Guide sydd wedi ei ddatblygu er mwyn galluogi pobl i ddod o hyd, graddio ac adolygu gofal plant a gofal pobl hŷn ledled Prydain.
Rhestr A-Y o gartrefi nyrsio
Rhestr lawn o gartrefi gofal nyrsio ym mwrdeistref sirol Caerffili (PDF)
Cartref Preswyl Ashville, Teras Briste, Brithdir, Tredegar Newydd, NP24 6JG.
Ffôn: 01443 834842.
E-bost: ashvillecontact@gmail.com
Gwefan: www.comfortcarehomes.co.uk
Adroddiad Monitro Cytundeb CBSC
Cartref Gofal Bargod (wedi'i gofrestru'n ddeuol) (Four Seasons Health Care)
Heol Fargoed, Bargoed, CF81 8PQ.
Ffôn: 01443 879005
E-bost: bargoed.m@fshc.co.uk
Gwefan: www.fshc.co.uk
Cartref Nyrsio Glan-yr-Afon (wedi'i gofrestru'n ddeuol), Lôn Glan-yr-Afon, Pengam, Coed Duon, NP12 3WA.
Ffôn: 01443 835196
Adroddiad Monitro Cytundeb CBSC
Cartref Nyrsio Highfields (wedi'i gofrestru'n ddeuol), Ffordd yr Uwchfaes, Coed Duon, NP12 1SL.
Ffôn:01495 225221
E-bost: mrkhan.highfields@yahoo.co.uk
Gwefan: www.highfieldscarehomewales.co.uk
Adroddiad Monitro Cytundeb CBSC
Canolfan Gofal Parklands (wedi'i chofrestru'n ddeuol) (HC-One Ltd)
Heol Casnewydd, Bedwas, Ger Caerffili, NP10 8BJ.
Ffôn: 029 2088 0525
E-bost: parklandsbedwas@hc-one.co.uk
Gwefan: www.hc-one.co.uk
Cartref Nyrsio Trafalgar Park (wedi'i gofrestru'n ddeuol) (HC-One Ltd)
Heol Islwyn, Heol Pontypridd, Nelson, Treharris, CF46 6HG.
Ffôn: 01443 450423
E-bost: trafalgarpark@hc-one.co.uk
Gwefan: www.hc-one.co.uk
Cartref Gofal Ty Penrhos (wedi'i gofrestru'n ddeuol) 2 Ffordd Beddau, Caerffili, CF83 2AX.
Ffôn: 029 20854340
E-bost: typenrhos@hafodcare.org.uk
Gwefan: www.hafodcare.org.uk
Cartref Gofal Valley View (wedi'i gofrestru'n ddeuol) (Four Seasons Health Care)
Dan-y-Coed, Hengoed, CF82 7LP.
Ffôn: 01443 862217
E-bost: valley.view.m@fshc.co.uk
Gwefan: www.fshc.co.uk
Adroddiad Monitro Cytundeb CBSC
Cartref Nyrsio Ynysddu (wedi'i gofrestru'n ddeuol) Hen Orsaf yr Heddlu, Bryn Hyfryd, Ynys-ddu, Ger Crosskeys, NP11 7JQ.
Ffôn: 01495 200061
Adroddiad Monitro Cytundeb CBSC
Ar gyfer adroddiadau monitro blaenorol, cysylltwch â'r Tîm Comisiynu ar 01443 864777 neu anfon e-bost i comisiynu@caerffili.gov.uk